BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 8 Mai 2007, 06:46 GMT 07:46 UK
Yr iaith yn ffynnu dros y môr
Annette Evans yn cynnal dosbarth dysgu Cymraeg yng Nghanada
Annette Evans yn cynnal dosbarth dysgu Cymraeg yng Nghanada

Mae cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg yng Nghanada, medd athrawon.

Am y tro cyntaf erioed mae Prifysgol Toronto wedi cynnig cwrs Cymraeg modern eleni.

Yn ninas Ottowa lle mae dosbarthiadau yn y brifysgol yn llawn bob blwyddyn.

Erbyn hyn mae'r criw cyntaf o fyfyrwyr Toronto yn aros am ganlyniadau arholiadau diwedd tymor.

Roedd 14 o fyfyrwyr wedi dilyn y cwrs yn Adran Geltaidd Prifysgol Toronto ac Annette Evans o Gricieth yn wreiddiol sy'n eu dysgu.

"Mae'r myfyrwyr yn amrywiol iawn - i un bachgen o Taiwan, un arall yn Wyddeles a nifer fawr o Ganada ei hun.

"Amrywiol iawn yw eu rhesymau am ddysgu ac maen nhw i'w gweld yn mwynhau dysgu'r iaith. "

Ffrindiau

Dim ond cwrs dros dro oedd Cymraeg Modern ym Mhrifysgol Toronto ar y cychwyn ond mae Ms Evans yn dweud bod cymaint o ddiddordeb nes bod y brifysgol wedi penderfynu cynnig y cwrs parhaol.

Dechreuodd Bill Cameron ddysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Toronto yn Awst.

"... mae gen i ffrindiau Cymraeg (yn chwarae) rygbi a dwi isho siarad efo nhw yn Gymraeg. Mae'n anodd dysgu Cymraeg.

Andrea Sammon, Evan Millward a Teg Morris yn eu dosbarth Cymraeg ym mhrifysgol Toronto
Andrea Sammon, Evan Millward a Teg Morris yn eu dosbarth Cymraeg ym mhrifysgol Toronto

"Dwi'n siarad Ffrangeg a dwi'n darllen ac ysgrifennu Lladin ond dwy ddim yn siarad Cymraeg yn dda."

Nid dim ond ym mhrifysgol Toronto mae cynnydd wedi bod yn y diddordeb yn y Gymraeg yn ddiweddar.

Yn Adran Geltaidd Prifysgol Ottawa mae dosbarth Cymraeg yr Athro Paul Birt yn llawn bob blwyddyn gyda 35 o fyfyrwyr.

"Mae'r diddordeb wedi cynyddu, ac mae'n dal i gynyddu. Mae'r myfyrwyr yn cymryd cryn dipyn o ddiddordeb yn yr ugeinfed ganrif."

Yn ddiweddar, mae'r myfyrwyr wedi bod yn dysgu am Saunders Lewis, Cymdeithas yr Iaith, hanes y sianel a hanes y cynulliad.

"Maen nhw'n hoffi'r hen hanes - hanes Llywelyn ac Owain Glyndŵr ...

"Dwi'n credu y bydd y diddordeb yn parhau am rywfaint o amser eto."




HEFYD
Capel Canada: 'Yma o hyd'
10 Ebr 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^