BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 7 Mai 2007, 11:21 GMT 12:21 UK
Pleidiau i drafod y cam nesaf
Rhodri Morgan ar ôl bwrw ei bleidlais
Methodd Llafur a sicrhau mwyafrif o seddi yn y Cynulliad newydd.
Mae lliw gwleidyddol llywodraeth newydd y cynulliad yn parhau'n ansicr wrth i'r gwahanol bleidiau drafod y posibilrwydd o gydweithio.

Llafur yw'r blaid fwyaf gyda 26 sedd, ond maen nhw angen cefnogaeth un o'r pleidiau eraill er mwyn sicrhau mwyafrif yn y siambr 60 aelod.

Mae yna anghytundeb o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol, sydd a chwe sedd, ynglŷn â'r posibilrwydd o ffurfio clymblaid ffurfiol.

Bydd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr hefyd yn asesu teimladau eu cefnogwyr cyn i'r cynulliad newydd eistedd am y tro cyntaf ddydd Mercher.

Bydd 26 aelod Llafur yn cynnal cyfarfod ddydd Mawrth i benderfynu ar eu cam nesaf.

Dywedodd Huw Lewis, AC Llafur Merthyr a Rhymni, fod yn rhaid i'w blaid gymryd gofal cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

"Mae Cymru angen llywodraeth sefydlog ac mae'n rhaid gweithio tuag at y nod hwnnw."

Dywedodd na allai ef yn bersonol fod yn rhan o lywodraeth fyddai'n cynnwys gweinidogion o Blaid Cymru.

Trefniant anffurfiol

Ond mae amheuaeth a fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn fodlon ffurfio clymblaid gyda Llafur.

Mae nifer o aelodau amlwg o fewn y blaid wedi dadlau yn erbyn hynny.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, byddai trefniant anffurfiol yn bosibilrwydd.

Ei blaid ef, gyda 15 sedd, yw ail blaid fwyaf y Cynulliad.

Mae sylwebyddion yn credu y byddai'n anhebygol i'r gwrthbleidiau ffurfio Llywodraeth glymblaid na fyddai'n cynnwys Llafur.

Yn ôl Alun Cairns o'r Ceidwadwyr mai clymblaid o'r fath yn bosib ond yn llai tebyg.

Mae'n rhaid i'r llywodraeth newydd gael ei ffurfio erbyn Mai 24.


Etholiad Y Cynulliad

CANLYNIADAU'R CYNULLIAD

Plaid Eth. Rhan. +/- Cyf
Ar ôl cyhoeddi 60 o'r 60 sedd
Llaf 24 2 -4 26
Plaid Cymru 7 8 +3 15
Ceid 5 7 +1 12
DemRh 3 3 0 6
Erill 1 0 0 1
DIWEDDARA

Vaughan Roderick Vaughan Roderick
Sylwadau dyddiol a deifiol am ymgyrch y pleidiau


Cymru Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob etholaeth a rhanbarth

CEFNDIR

SEDDI ALLWEDDOL
 
ETHOLAETHAU CYMRU
 

YR ARWEINYDDION
 

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD
 
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^