Cymdeithas: 'Rhaid i bopeth newid ar ôl y canlyniad ysgubol hwn yn y Gymru Gymraeg'
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i sicrhau na chaiff Llafur "fynd yn ei blaen i anwybyddu'r Gymru Gymraeg yn dilyn ei chwalfa yn yr etholiad".
Meddai Dafydd Morgan Lewis, swyddog ymgyrchoedd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r Blaid Lafur wedi cael ei chwalu'n llwyr yn yr etholiad ym mhob un o'r etholaethau Cymraeg ac yn y rhannau Cymraeg o etholaethau eraill.
"Os caiff Llafur ei ffordd, fe aiff ymlaen i anwybyddu'r Cymry Cymraeg sydd wedi'i gwrthod, ond ni chaiff wneud hynny bellach heb gefnogaeth plaid arall.
"Yr ydym yn galw ar Blaid Cymru ac ar y Democratiaid Rhyddfrydol i wrthod unrhyw gytundeb gyda Llafur oni bydd sicrwydd
o ddeddf iaith ystyrlon, tai fforddiadwy i bobl ifainc yn yr ardaloedd Cymraeg, a diogelu'n hysgolion pentrefol Cymraeg.
"Rhaid i bopeth newid ar ôl y canlyniad ysgubol hwn yn y Gymru Gymraeg."