Collodd Alun Pugh ei sedd i'r Ceidwadwr Darren Millar
|
Fel ym mhob etholiad, roedd enillwyr a chollwyr y tro hwn, wrth i rai wynebau cyfarwydd ffarwelio â'r Cynulliad a wynebau newydd gyrraedd yno.
Mae'r cyn-weinidog Alun Pugh yn mynd ar wyliau i Affrica ar ôl colli sedd Gorllewin Clwyd i'r Ceidwadwr Darren Millar.
Roedd hi'n noson wael i sawl gwleidydd profiadol - y Ceidwadwr Glyn Davies, cyn-lywydd Plaid Cymru Dafydd Wigley a'r ymgeiswyr annibynnol Ron Davies a John Marek.
Ond roedd hi'n noson dda i Helen Mary Jones o Blaid Cymru a'r ymgeisydd annibynnol Trish Law.
'Newid meddwl'
Yng Ngorllewin Clwyd yr oedd un o ganlyniadau allweddol y noson pan gollodd yr ymgeisydd a fu'n weinidog diwylliant, chwaraeon a'r Gymraeg, Alun Pugh.
Collodd dirprwy lywydd y cynulliad, John Marek, ei sedd
|
"Mae pobl Gorllewin Clwyd wedi fy ethol i ddwywaith ac rwy'n hynod ddiolchgar am y cyfle i'w gwasanaethu," meddai.
"Nawr maen nhw wedi newid eu meddyliau. Dyna ddemocratiaeth."
Mynegodd y Ceidwadwr Glyn Davies ei bleser am y canlyniadau cyffredinol ei blaid ond ei siom na chafodd ei eil ethol i'w sedd yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dywedodd Mr Davies y byddai'n gweld eisiau'r gwaith a'i gydweithwyr a'i fod wedi mwynhau ei gyfnod yn y Cynulliad.
Annibynnol
Fe lwyddodd y Ceidwadwyr i gynyddu nifer yr aelodau yn yr etholaethau o un i bump.
Llwyddodd Llafur i ennill sedd Wrecsam yn ôl pan ddaeth Lesley Griffiths i'r brig o flaen John Marek, cyn-ddirprwy Lywydd y Cynulliad.
Mohammed Asghar o Blaid Cymru fydd yr aelod cyntaf o leiafrif ethnig
|
Ond methodd cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies, yn ei ymgais i adennill sedd Caerffili.
Roedd yn drydydd y tu ôl i Jeff Cuthbert o Lafur a Lindsay Whittle o Blaid Cymru.
Ond roedd llwyddiant i ymgeisydd annibynnol arall, Trish Law, a gadwodd sedd Blaenau Gwent a enillodd mewn isetholiad yn dilyn marwolaeth ei gŷr Peter Law y llynedd.
Cynyddodd Mrs Law ei mwyafrif mewn sedd a arferai fod yn gadarnle i Lafur, gan gymryd 54% o'r bleidlais.
Dywedodd Mrs Law: "Roedd Rhodri Morgan yn anghywir unwaith eto pan ddywedodd fy mod i wedi cael pleidlais o dosturi yn yr isetholiad 10 mis yn ôl."
Llwyddiant Plaid
Methodd cyn-lywydd Plaid Cymru Dafydd Wigley â dychwelyd i'r Cynulliad fel ymgeisydd yn yr ail safle ar restr ranbarthol Gogledd Cymru.
Oherwydd penderfyniad y blaid i roi merched ar frig y rhestr, Janet Ryder, sy'n dychwelyd i Fae Caerdydd.
Cafodd Helen Mary Jones o Blaid Cymru fuddugoliaeth ysgubol yn Llanelli
|
Un o lwyddiannau Plaid Cymru oedd buddugoliaeth Helen Mary Jones yn Llanelli, y sedd a ddaliodd yn nhymor cyntaf y Cynulliad.
Ennill wnaeth y blaid hefyd sedd newydd Aberconwy gyda Gareth Jones yn dychwelyd i Fae Caerdydd ar ôl saib o bedair blynedd.
Enillodd y Ceidwadwyr mewn brwydr agos yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro.
Enillodd y Ceidwadwr Angela Burns 8,590 o bleidleisiau o gymharu â 8,492 pleidlais y cyn-weinidog amaeth Christine Gwyther o Lafur.
Bydd aelod o leiafrif ethnig yn y Cynulliad am y tro cyntaf ar ôl i Mohammed Asghar gael ei ethol ar ran Plaid Cymru ar restr ranbarthol De Ddwyrain Cymru.