Yn chwilio am gydchwaraewr: Rhodri Morgan
|
Os yw'r dyfalu wedi dod i ben, mae'r holl drafod am glymbleidio ar fin digwydd.
Llafur yw'r blaid fwya yn y Cynulliad ar ôl yr Etholiad ond bydd angen cefnogaeth plaid arall arni i ffurfio llywodraeth arall. Y ffefrynnau efallai yw'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Neu gallai un o'r pleidiau eraill glymbleidio er mwyn "cadw Llafur allan".
Ond gallai hyn fod yn anodd, yn enwedig os yw Plaid Cymru'n closio at y Ceidwadwyr, tasg anodd i rai o aelodau asgell chwith Plaid Cymru.
Eisoes mae'r Ceidwadwyr wedi treulio misoedd wrth baratoi cefnogwyr ar gyfer clymblaid.
Gallai David Cameron honni fod rhywfaint o bwer ym Mae Caerdydd yn "gam allweddol" at adennill grym yn San Steffan.
Ond rhaid cofio taw y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn y glymblaid rhwng 2000 a 2003 gyda Llafur yn y cynulliad cyntaf.
Ond mae amheuon a yw'r aelodau'n barod i daro bargen.
Taro bargen
Mae'n annhebyg y bydd arweinydd Llafur, Rhodri Morgan, yn ffonio Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad yn fuan.
Eisoes mae'r Ceidwadwyr wedi dweud na fydden nhw'n "cefnogi" Llafur.
A beth am Blaid Cymru? Cyn yr etholiad roedd Llafur wedi lladd ar sibrydion y byddai'n taro bargen.
Ond yn ôl sylwebwyr, gallai'r ddwy blaid daro bargen.
Senedd: Pwy fydd yn clymbleidio?
|
Mae rhai aelodau amlwg yn y Blaid Lafur wedi dweud mai Plaid Cymru yw'r wrthblaid "fwya aeddfed," yn enwedig o gofio bod yr arweinydd Ieuan Wyn Jones wedi helpu cymeradwyo cyllideb Llafur cyn y Nadolig.
Dywedodd Mr Jones na fyddai ei blaid "yn cefnogi llywodraeth Lafur oedd yn methu".
Ond mae wedi dweud ei fod yn fodlon trafod â phleidiau eraill "os yw hyn er lles Cymru".
Gallai Llafur geisio llywodraethu ar ben eu hunain ond mae Mr Morgan wedi derbyn fod y strategaeth yn "beryglus".
Pan geisiodd ei ragflaenydd Alun Michael wneud hyn collodd bleidlais o hyder a bu raid iddo adael y cynulliad.
Bydd y pleidiau'n trafod o fewn pum diwrnod ac yn pwyso a mesur y camau nesa.
Dyw'r opsiynau ddim yn hawdd.