'Siomedig': Alun Pugh
|
Collodd Alun Pugh o'r Blaid Lafur yn sedd ymylol Gorllewin Clwyd, y gweinidog cynulliad cynta i golli ei sedd.
Y Ceidwadwr Darren Millar enillodd â mwyafrif o 1,596.
Yn ystod yr ymgyrch cafodd ei feirniadu am honni fod bod yn hoyw'n "bechod".
Roedd Mr Pugh wedi cael ei feirniadu am fod £3,000 o arian cyhoeddus wedi eu gwario ar gerdyn Nadolig yr oedd ei lun arno.
Mr Pugh oedd Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a'r Iaith Gymraeg yn y llywodraeth ddiwetha.
Roedd wedi honni iddo gyhoeddi'r cardiau er mwyn hyrwyddo'r iaith Gymraeg ond honnodd Plaid Cymru fod "arian cyhoeddus wedi ei gamddefnyddio" am fod mwy na £3,000 wedi eu gwario ar gyngor cyfreithiol.
Cafodd ei feirniadau am nad oedd yn bresennol mewn cinio mawreddog yng Nghaerdydd cyn cyhoeddi pwy fyddai'n cynnal Ewro 2012.
Darren Millar: 'Yn erbyn pob math o wahaniaethu'
|
Yn 2006 cafodd ei ddiswyddo fel colofnydd papur newydd y Western Mail ar ôl iddo ddweud fod straeon y papur yn "dipyn o jôc".
Roedd honiadau fod Mr Millar wedi gwneud ei sylwadau mewn cyfarfod cyhoeddus ond mynnodd ei fod yn erbyn pob math o wahaniaethu.