BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 4 Mai 2007, 05:38 GMT 06:38 UK
Ceidwadwyr Cymru yn dathlu
Ceidwadwyr Cymreig
Bydd gan y Ceidwadwyr bump o aelodau yn cynrychioli seddi etholaethol yn y cynulliad newydd.

Mynwy oedd eu hunig sedd etholaethol yn yr hen gynulliad.

Bydd eu haelodau newydd yn cynrychioli Gogledd Caerdydd, Gorllewin Clwyd, Preseli Penfro, a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn ogystal â Mynwy.

Mae'r blaid yn disgwyl ychwanegu aelodau rhanbarthol at eu cyfanswm terfynol.

Yng Ngorllewin Clwyd cafodd Alun Pugh yr Ysgrifennydd Chwaraeon, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg ei drechu gan Darren Millar. Y Ceidwadwyr yn sicrhau mwyafrif o 1,596.

Mewn ras glos rhwng y tair plaid yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro, y Ceidwadwr oedd yn fuddugol o 98 pleidlais.

Cafodd Angela Burns 8,590 o bleidleisiau, gan drechu Christine Gwyther, Llafur ( 8,492) a John Dixon, Plaid Cymru (8,340).

Jonathan Morgan ydi aelod newydd Gogledd Caerdydd. Roedd ganddo fwyafrif o 4,844 dros Lafur.

Roedd Ceidwadwyr Preseli Penfro hefyd yn dathlu wrth i Paul Davies sicrhau mwyafrif o 3,205.



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^