Methu dychwelyd i Fae Caerdydd wnaeth Dafydd Wigley wrth i ganlyniadau'r rhanbarthau gael eu cyhoeddi.
Ond fe lwyddodd Plaid Cymru i ethol yr aelod o leiafrifoedd ethnig cyntaf i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Yng Ngogledd Cymru cafodd Janet Ryder (Plaid Cymru); Eleanor Burnham (Democrat Rhyddfrydol); Brynle Williams a Mark Isherwood (Ceidwadwyr) eu hethol.
Yn Nwyrain De Cymru cafodd Jocelyn Davies a Mohammad Asghar (Plaid Cymru); Mike German (Democrat Rhyddfrydol) a William Graham (Ceidwadwyr) eu hethol.
O Bacistan y daw'r cyfrifydd Mohammad Asghar, yr aelod cyntaf o leiafrif ethnig.
Cafodd dau aelod Llafur eu hethol yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Fe fydd Alun Davies a Joyce Watson yn ddau aelod newydd.
Hefyd yn y rhanbarth y mae gan Blaid Cymru aelod newydd, Nerys Evans.
Dychwelyd i Fae Caerdydd y bydd yr aelod Ceidwadol ac arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Nick Bourne.
Yng Nghanol De Cymru bydd dau aelod Ceidwadol a dau aelod Plaid Cymru.
Leanne Wood a Christopher Franks fydd aelodau Plaid Cymru tra bod David Melding ac Andrew Davies yn cynrychioli'r Ceidwadwyr.
Rhanbarth Gorllewin De Cymru oedd yr ola i gyhoeddi'r aelodau a hynny tua 5pm prynhawn Gwener.
Bydd Dai Lloyd o Blaid Cymru, Alun Cairns o'r Ceidwadwyr a Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dychwelyd i Fae Caerdydd.
Yn ymuno â nhw y bydd Bethan Jenkins ar ran Plaid Cymru.
O ran y rhanbarthau fe wnaeth Plaid Cymru ennill 8 sedd; Ceidwadwyr 7; Democratiaid Rhyddfrydol 3 sedd a'r Blaid Lafur yn cael 2.