Fe wnaeth y Blaid Geidwadol gipio sedd Preseli Penfro oddi ar y Blaid Lafur.
Y Cymro Paul Davies fydd aelod newydd yr etholaeth.
Mae ganddo fwyafrif o 3,205.
Fe ddaeth Tamsin Dunwoody, sydd wedi bod yn cynrychioli'r etholaeth ers 2003, yn ail.
Yn Etholiad Cyffredinol 2005 fe wnaeth y Ceidwadwyr gipio'r etholaeth yma.
Roedd y Blaid Lafur yn wynebu her gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru a ddaeth yn drydydd gyda 780 pleidlais yn llai na Ms Dunwoody.
Gyda'r Ceidwadwyr wedi cadw etholaeth Mynwy, dyma ail sedd y blaid yn y Cynulliad o ran etholaethau, eisioes un yn fwy na'r cynulliad blaenorol.
"Rydym wedi cael ymateb positif wrth y drws a gweld bod y bleidlais Llafur yn cwympo," meddai Mr Davies.
"Doedd yr etholwyr ddim am weld y gwasanaethu cymdeithasol yn erydu ac mae hyn yn neges clir i Rhodri Morgan a Tony Blair."