BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 4 Mai 2007, 03:30 GMT 04:30 UK
Dewisiadau anodd yn wynebu Llafur
Rhodri Morgan
Bydd gan Lafur llai o seddi yn y Cynulliad newydd

Bydd yn rhaid i Lafur lywodraethu gyda chydsyniad pleidiau eraill neu ffurfio clymblaid yn y cynulliad newydd.

Bu gostyngiad yng nghanran pleidlais y blaid drwy Gymru ar Fai 3.

Llafur fydd yn parhau'r blaid fwyaf ond gyda llai o seddi nag o'r blaen.

Collodd Llafur seddi i Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr.

Methodd Llafur ac ail ennill sedd Blaenau Gwent, oedd gynt yn gadarnle Llafur.

Llwyddodd yr aelod Annibynnol, Trish Law, i gynyddu ei mwyafrif.

Bydd yn rhaid aros am ganlyniadau'r seddi rhanbarthol cyn gwybod beth fydd cryfder y gwahanol bleidiau.

Yn yr hen gynulliad roedd ganddyn nhw 29 o seddi, mae'n edrych yn debyg y bydd ganddyn nhw ychydig y llai ar ôl i'r holl ganlyniadau gael eu cyhoeddi.

Bydd yn rhaid i Rhodri Morgan benderfynu a yw ef am arwain llywodraeth leiafrif gyda chydsyniad pleidiau eraill neu ffurfio llywodraeth Clymblaid.

Ar ôl i'r blychau gau ond cyn i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi dywedodd Rhodri Morgan fod ei fod yn llawer "rhy gynnar" i siarad ac i ddarogan.

"Mae'n edrych mai ni fydd y blaid fwyaf o bell ffordd, ond bydd yn rhaid i ni weld canlyniadau'r rhestrau rhanbarthol cyn gallu dweud beth oedd neges pobl Cymru."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones y bod hi'n bwysig fod yna lywodraeth sefydlog yn y cynulliad.


Etholiad Y Cynulliad

CANLYNIADAU'R CYNULLIAD

Plaid Eth. Rhan. +/- Cyf
Ar ôl cyhoeddi 60 o'r 60 sedd
Llaf 24 2 -4 26
Plaid Cymru 7 8 +3 15
Ceid 5 7 +1 12
DemRh 3 3 0 6
Erill 1 0 0 1
DIWEDDARA

Vaughan Roderick Vaughan Roderick
Sylwadau dyddiol a deifiol am ymgyrch y pleidiau


Cymru Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob etholaeth a rhanbarth

CEFNDIR

SEDDI ALLWEDDOL
 
ETHOLAETHAU CYMRU
 

YR ARWEINYDDION
 

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD
 
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^