Llwyddodd Plaid Cymru i ennill sedd newydd Aberconwy.
Bydd Gareth Jones yn dychwelyd i Fae Caerdydd ar ôl bwlch o 4 blynedd.
Fe ddaeth Dylan Jones Evans ar ran y Ceidwadwyr yn ail; y cyn AC Llafur Denise Idris Jones yn drydydd a'r Democratiaid Rhyddfrydol ac Euron Hughes, yn bedwerydd.
Bu Mr Jones yn aelod dros etholaeth Conwy yn y Cynulliad cyntaf tan i'r Blaid Lafur gipio'r sedd yn 2003.
"Mae hyn yn ddigwyddiad hanesyddol," meddai Mr Jones.
"Mae'n etholaeth newydd ac yn ddaearyddol yn uned i'w ystyried o ran gogledd Cymru.
"O gefn gwlad Conwy, y dyffryn i'r arfordir."
Dywedodd bod bygythiad yn parhau i israddio Ysbyty Llandudno a'u bod nhw, drwy ei ethol yn lleisio eu barn.
"Mae 'na waith anhygoel i'w wneud yng Nghaerdydd, a dwi'n edrych ymlaen ac yn gado i siarad ar ran holl etholwyr Aberconwy," ychwanegodd.