Trish Law yn cael ei hethol yn aelod dros Flaenau Gwent
|
Mae'r ymgeisydd annibynnol Trish Law wedi cael ei hethol yn aelod cynulliad dros Flaenau Gwent.
Bu Mrs Law yn aelod yn y cynulliad blaenorol ar ôl ennill isetholiad y llynedd ar ôl marwolaeth ei gŵr, Peter Law.
Derbyniodd Mrs Law 12,722 pleidlais gyda'r ymgeisydd Llafur, Keren Bender yn ail gyda dros 7,000 pleidlais.
Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn drydydd, Plaid Cymru yn bedwerydd a'r Ceidwadwyr yn bumed.
Blaenau Gwent oedd sedd mwya diogel Llafur yng Nghymru.
Cafodd Mrs Law 5,357 o fwyafrif gyda 54.1% o'r bleidlais.
Diolchodd Mrs Law i'w chefnogwyr wrth gael ei hethol i Fae Caerdydd ac i'r ymgeiswyr am "ymgyrch lan".
"Mae pobl Blaenau Gwent wedi anfon neges i'r prif bleidiau gwleidyddol bod angen rhoi pobl o flaen gwleidyddiaeth.
"Cafodd Rhodri Morgan hi'n anghywir unwaith eto pan ddywedodd mai pleidlais o gydymdeimlad gefais i yn yr isetholiad.
"Fe wnes i ymladd yr etholiad yma ar fy record bersonol ac mae pobl Blaenau Gwent wedi dangos hyder yndda i."