Helen Mary Jones yn adennill sedd Llanelli
|
Llwyddodd Helen Mary Jones o Blaid Cymru i droi mwyafrif Llafur o 21 pleidlais gan adennill y sedd a gollodd bedair blynedd yn ôl.
Fe wnaeth Ms Jones, a fu'n aelod rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, guro'r aelod Llafur, Catherine Thomas, gyda mwyafrif o 3,884 pleidlais.
Penderfynodd Ms Jones i sefyll yn yr etholaeth yn hytrach nag ar y rhestr.
Roedd Plaid Cymru wedi cynnal ymgyrch gref yn Llanelli, un o'r pum sedd allweddol y gwnaethon nhw eu colli yn etholiad 2003.
Bu Ms Jones yn cynrychioli Llanelli yn ystod y cynulliad cyntaf tan 2003.
Mae hi'n llefarydd iechyd y blaid.
Wrth gael ei holi cyn y canlyniad swyddogol fe wnaeth Nia Griffith, AS Llafur Llanelli, gydnabod y byddai Plaid Cymru yn ennill.
"Rydym wedi gweld y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr yn colli pleidleisiau i Blaid Cymru.
"Mae'r bobl wedi defnyddio'r bleidlais yn strategol ac yn erbyn Llafur.
"Mae'n drist iawn i fod yn onest ond mae Llafur yn rheoli'r cyngor, yn y Cynulliad ac yn Llundain a'r etholwyr yn cwyno yn erbyn y blaid honno."
Dywedodd bod yr ysbyty lleol yn un mater sydd wedi bod yn bwysig iawn i'r etholwyr.