Doedd hi ddim yn noson hawdd i Rhodri Morgan a'r Blaid Lafur
|
Gyda'r canlyniadau olaf yn dod i law toc cyn 5pm ddydd Gwener mae'r darlun gwleidyddol o Gymru yn amlwg.
Llafur ydi'r blaid fwya yn y Cynulliad newydd ond gyda llai o seddi nag o blaen.
Bu gostyngiad yn eu pleidlais gyda sylwebwyr yn dweud mai hon oedd eu canran isaf ers 1918.
Ar ôl yr holl ganlyniadau mae gan Lafur 26 o seddi; Plaid Cymru 15; Ceidwadwyr 12; Democratiaid Rhyddfrydol 6 ac un aelod Annibynnol.
Cafodd y rhan fwyaf o'r seddi rhanbarthol yn cael eu dosbarthu rhwng y tair gwrthblaid, gyda Llafur yn ennill dwy yng Nhanolbarth a Gorllewin Cymru.
Roedd cynnydd yn nifer y pleidleiswyr - 43% yn bwrw pleidlais tra oedd 38% yn 2003.
Plaid Cymru fydd yr ail blaid fwyaf yn y cynulliad a'r Ceidwadwyr yn dynn wrth eu sodlau.
Collodd Llafur sedd ymylol Llanelli i Blaid Cymru a seddi Preseli Penfro a Gogledd Caerdydd i'r Ceidwadwyr.
Aelod ethnig
Yn Llanelli trodd Helen Mary Jones fwyafrif Llafur o 21 pleidlais yn fwyafrif o 3,884.
Cafodd Paul Davies ei ethol gyda mwyafrif o 3,205.
Cipiodd y Ceidwadwyr sawl sedd gan gynnwys Gogledd Caerdydd
|
Trodd Gogledd Caerdydd o goch i las wrth i Jonathan Morgan gipio'r sedd i'r Ceidwadwyr.
Ond yn Wrecsam roedd cefnogwyr Llafur yn dathlu.
Fe lwyddon nhw i guro'r aelod annibynnol John Marek, dirprwy lywydd y Cynulliad, ac ail-gipio'r sedd. Roedd gan Lesley Griffiths fwyafrif o 1,250.
Cafodd yr aelod cynta o leiafrif ethnig ei ethol - Mohammad Asghar o Blaid Cymru - ar restr ranbarthol Dwyrain De Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ei bod "yn glir bod pobl Cymru wedi penderfynu na ddylai unrhyw blaid cael mwyafrif yn y cynulliad".
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru, Cheryl Gillan AS, bod y canlyniadau yn dangos "symudiad sylfaenol mewn cefnogaeth" i'r Ceidwadwyr Cymreig.
'Cydweithio'
"Mae pobl yn gallu gweld ein bod ni'n cyd-weithio ar bob lefel o lywodraeth er lles pobl Cymru," meddai.
"Dydyn ni erioed wedi bod mor unedig nac mor optimistaidd am y dyfodol."
Cipiodd Helen Mary Jones sedd Llanelli gan y Blaid Lafur
|
Dywedodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan, a oedd wedi addo ymddiswyddo pe bai Llafur yn gwneud yn wael, fod y blaid wedi dangos fod "y proffwydi gwae yn anghywir" ac y "gallwn ni ddal ein pennau'n uchel".
"Dyw Llafur ddim wedi ennill ond ddim wedi colli," meddai.
Roedd yn bryd cael trafodaeth o fewn y blaid, meddai, ac nid oedd yn disgwyl datblygiadau tan ar ôl gŵyl y banc.
Os nad oedd gan unrhyw blaid fwyafrif glir roedd "gan bawb ohonon ni gyfrifoldeb i ystyried y canlyniadau i weld a allwn ni greu llywodraeth sefydlog i Gymru," meddai arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones.
Daeth y canlyniad cyntaf yn etholaeth Islwyn toc wedi dau fore Gwener.
Cafodd Irene James, Llafur, ei hailethol ond roedd gogwydd yn erbyn Llafur.
Cipio seddi
Bydd Alun Pugh, y cyn Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a'r Iaith Gymraeg, ddim yn dychwelyd i'r Cynulliad. Fe gollodd Gorllewin Clwyd i'r Ceidwadwyr o 1,596.
Yn Nyffryn Clwyd ar ôl ailgyfrif llwyddodd Ann Jones i gadw gafael ar y sedd - gyda mwyafrif o 92.
Cadwodd Trish Law sedd Blaenau Gwent yn annibynnol
|
Daeth y Ceidwadwyr yn agos yn Nelyn - Llafur yn dal eu gafael ar yr etholaeth gyda mwyafrif o 511.
Llwyddodd yr aelod annibynnol Trish Law i ddal ei gafael ar etholaeth Blaenau Gwent.
Fydd cyn-Ysgrifennydd Cymru Ron Davies ddim yn dychwelyd i'r cynulliad. Llafur oedd yn fuddugol yng Nghaerffili gyda 8,937, Plaid Cymru yn ail gyda 7,000 a Ron Davies yn drydydd gyda 6,071.
Methodd cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley yn ei ymgais i gael ei ethol yn aelod rhanbarthol dros ogledd Cymru.
Ond fe wnaeth y BNP ddod o fewn 2,580 pleidlais i ennill sedd yn rhanbarth Gogledd Cymru gyda 9.4% o'r bleidlais ranbarthol, sydd â chymuned sylweddol o Bwyliaid.