Mae pobl Cymru wedi bod yn ethol aelodau newydd i'r Cynulliad
|
Mae pobl Cymru yn fwy cefnogol i'r Cynulliad Cenedlaethol erbyn hyn ac am ei weld yn datblygu'n senedd lawn yn ôl arolwg barn newydd gan BBC Cymru.
Cafodd yr arolwg ei gomisiynu i gyd-fynd gyda'r Etholiad gafodd ei gynnal ddydd Iau, wrth i bobl Cymru ddewis pwy fydd yn ffurfio llywodraeth nesaf y Cynulliad.
Mae'r arolwg yn awgrymu bod yr etholwyr nawr eisiau i'r Cynulliad fod hyd yn oed yn fwy annibynnol o San Steffan.
Cafodd yr arolwg ei gynnal gan ICM ar gyfer gwasanaethau etholiad BBC Cymru .
Dywedodd 56% mai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddylai fod â'r dylanwad mwyaf dros Gymru, gyda dim ond 19% yn dweud mai Llywodraeth y DU ddylai fod â'r grym mwyaf.
 |
A yw arweinwyr y gwrthbleidiau wedi perfformio'n dda?
Ieuan Wyn Jones (Plaid): Ydy - 40%, Nac ydy - 20%
Nick Bourne (Ceid): Ydy - 26%, Nac ydy - 30%
Mike German (Dem Rhydd): Ydy - 34%, Nac ydy - 26%
|
A phan ofynnwyd sut y byddan nhw'n pleidleisio petai yna refferendwm ar droi'r Cynulliad yn Senedd lawn â grym i godi trethi, dwedodd 47% y byddan nhw'n pleidleisio "Ie" a 43% yn pleidleisio "Na".
Fe awgrymodd yr arolwg barn hefyd bod y cyhoedd yn gyfforddus gyda'r syniad o glymbleidiau, gyda 49% yn dweud mai clymblaid fyddai'r canlyniad gorau a 45% yn dweud y byddai'n well ganddyn nhw petai un blaid yn ennill mwyafrif.
Roedd mwy o blaid clymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru (35%) nag oedd o blaid clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol (22%).
'Sicr o bleidleisio'
Ac fe gafodd y syniad o glymblaid rhwng Plaid, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol gefnogaeth 32% o'r rhai a holwyd.
Pan holwyd pwy fyddai'r arweinydd gorau ar unrhyw glymblaid, Rhodri Morgan oedd ar y brig gyda 35% o'r bleidlais, wedi'i ddilyn gan Dafydd Wigley (12%) a Ieuan Wyn Jones (7%).
Roedd y rhai a holwyd yn credu mai iechyd oedd y pwnc mwyaf allweddol yn ystod yr ymgyrch, uwchben addysg a thor-cyfraith.
A'r tri phwnc hynny oedd ar frig rhestr y rhai a holwyd be ddylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesa'r Cynulliad dros y pedair blynedd nesa - uwchben swyddi a'r amgylchedd.
Roedd yr arolwg barn yn gwrthddweud y rhai sy wedi darogan y bydd nifer y rhai sy'n bwrw eu pleidlais yn yr etholiad hwn yn isel iawn - gyda 58% yn dweud eu bod yn 'sicr o bleidleisio'.
Cafodd 1,018 o Gymry dros 18 eu holi ar gyfer Arolwg Barn Noson Etholiad ICM.