BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 3 Mai 2007, 11:46 GMT 12:46 UK
Annog mwy i gadw gwenyn
Gwenyn ar flodyn haul
Mae angen y gwenyn er mwyn goroesi, yn ôl Mr Taylor

Annog pobl i gadw gwenyn er mwyn ateb y gostyngiad sylweddol yn nifer y gwenyn gwyllt yng Nghymru mae cymdeithas.

Fe fydd Cymdeithas Gwenynwyr Cymru yn cyfarfod prif arolygydd gwenyn y Deyrnas Unedig i drafod y mater yng Ngholeg Gelli Aur, Llandeilo ddydd Iau.

Dywedodd ysgrifennydd y gymdeithas, John Taylor, bod parasitig o'r enw varroa wedi cael gwared ar y rhan fwya o wenyn gwyllt Cymru.

Oni bai am wenynwyr dywedodd y byddai'r system ecolegol mewn trafferthion.

Ychwanegodd y gallai bobl wneud eu rhan drwy ddechrau cadw gwenyn.

Gwarchod

Dywedodd Mr Taylor cyn y cyfarfod bod nifer o'r gwenyn gwyllt wedi marw.

"Mae'r parasitig wedi difrodi'r gwenyn.

"Gallwn drin y rhai sydd yn y cychod gwenyn ond mae'r rhai sydd yn y gwyllt yn cael eu difrodi."

Dywedodd mai'r rhai sy'n cadw gwenyn sy'n sicrhau bod y math hwn yn goroesi.

Fe fydd Richard Ball, prif arolygydd gwenyn Prydain, yn y cyfarfod.

Eglurodd Mr Taylor bod angen mwy o bobl i gadw gwenyn am eu bod yn chwarae rhan allweddol yn y system ecolegol.

Ychwanegodd bod Albert Einstein wedi rhagweld petai'r gwenyn yn diflannu yna dim ond am bedair blynedd y gallai dyn fyw.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^