BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 30 Ebrill 2007, 12:31 GMT 13:31 UK
Pwy sy'n perthyn i'r Siartwyr?
Darlun o'r Siartwyr yn ymladd yn erbyn yr awdurodau
Roedd y Siartwyr yn fudiad cenedlaethol rhwng 1838-1848

Mae pobl tre'n cael cyfle ddydd Llun i ganfod a oedd eu cyndeidiau'n aelod o fudiad y Siartwyr.

Datblygodd Siartiaeth oherwydd anfodlonrwydd y dosbarth gweithiol yn y 19eg Ganrif - bu miloedd o bobl gyffredin yn ymgyrchu am yr hawl i bleidleisio.

Mewn brwydr yn 1839 yng Nghasnewydd cafodd 20 eu lladd ar l i filwyr danio at dorf o 3,000.

Dywedodd Amgueddfa Casnewydd fod digwyddiad dydd Llun hyn yn atgoffa pawb am yr aberth fel y gallai cenedlaethau'r dyfodol gael hawliau sylfaenol.

Yn 1838 cafodd un o ymgyrchwyr amlyca'r Siartwyr, Henry Vincent, ei arestio oherwydd "areithiau ymfflamychol" cyn ei ddedfrydu i garchar yn Sir Fynwy am flwyddyn.

Arestio

Mynnodd John Frost, Siartydd amlwg, na ddylai cefnogwyr droi at drais ond gorymdeithio'n heddychlon yng Nghasnewydd yn galw am ryddhau Vincent.

Ond pan gyrhaeddodd yr orymdaith Gasnewydd roedd mwy o gefnogwyr wedi cael eu harestio a'u dal yn gaeth yng Ngwesty'r Westgate.

Cyfle i ganfod mwy am y digwyddiadau ac am berthnasau fu'n aelodau o fudiad y Siartwyr yw'r diwrnod ddydd Llun.

Mae'r trefnwyr wedi dweud fod Archifdy Gwent wedi derbyn ymholiadau oddi wrth bobol yn honni eu bod yn perthyn i'r Siartwyr.

Erbyn hyn, mae mwy na 500 o enwau ar gofrestr arbennig ac mae'n bosib bod perthnasau yn dal i fyw yn yr ardal.

Diwrnod agored yn Amgueddfa Casnewydd yn Sgwr John Frost, Ebrill 30, 12- 4pm.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^