BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 27 Ebrill 2007, 08:37 GMT 09:37 UK
Y Byd yn closio at gymuned
Y Byd
Mae Y Byd yn bwriadu sefydlu eu prif swyddfa ym Machynlleth

Bydd y rhai sydd tu ôl i'r fenter i sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn symud i'w swyddfa newydd ym Machynlleth erbyn canol haf.

Nod rheolwyr Y Byd yw cyhoeddi rhifyn cyntaf y papur cyn diwedd y flwyddyn.

Nos Iau daeth tua 50 o bobl Dyffryn Dyfi i gwrdd ag uwchswyddogion y papur er mwyn clywed eu cynlluniau.

Roedd y cyfarfod ym Machynlleth a bydd y papur yn agor prif swyddfa ym Mharc Ecolegol y dref a chreu 24 o swyddi.

Dywedodd Rebecca Williams, swyddog datblygu Y Byd: "Menter genedlaethol yw Y Byd, felly mae'n gwneud synnwyr i sefydlu'r pencadlys yn y canolbarth.

"Mae'n adeilad addas iawn ac mae hefyd yn beth da i greu swyddi mewn ardal lle mae eu gwir angen".

Yn ôl Ned Thomas, cadeirydd y cyhoeddwyr, roedd yn bwysig fod y papur yn magu perthynas â'r gymuned leol.

Penodi

Ym mis Tachwedd fe gyhoeddwyd fod dau wedi eu penodi'n olygydd a dirprwy olygydd, Aled Price a Catrin Rogers.

Mae Mr Price, o Gaerdydd yn wreiddiol, yn newyddiadurwr profiadol sydd wedi gweithio am flynyddoedd i BBC Cymru.

Y dirprwy olygydd fydd Catrin Rogers, golygydd papur lleol yn Hounslow yn Llundain.

Bu cais Y Byd am gymhorthdal rhanbarthol yn llwyddiannus.




HEFYD
Papur dyddiol gam yn nes
22 Ion 07 |  Newyddion
Swyddi: Y Byd yn ei le?
19 Meh 06 |  Newyddion
Swydd newydd ar ôl teithio'r byd
18 Maw 05 |  Newyddion
'Amheuon' am bapur newydd Cymraeg
29 Medi 04 |  Newyddion
Papur dyddiol 'mewn blwyddyn'
22 Ion 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^