BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 26 Ebrill 2007, 17:00 GMT 18:00 UK
Llai o gosbi am oryrru?
Richard Brunstrom
Dywedodd Mr Brunstrom y bydd mwy o addysg a llai o gosbi yn y dyfodol

Mae Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd wedi dweud y bydd gyrwyr sy'n cael eu dal yn goryrru'n llai tebygol o gael eu dirwyo yn dyfodol.

Mewn cynhadledd ar ddiogelwch ffyrdd, fe ddywedodd Richard Brunstrom y bydd mwy o bwyslais ar addysgu pobl sy'n goryrru drwy eu hanfon ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder yn hytrach na'u cosbi.

Datgelodd hefyd bod yr heddlu yn ystyried rhoi camerâu cyflymder mewn llygaid cathod ar ffyrdd.

Dywedodd y bydd rheolau newydd a ddaw i rym yn ystod y flwyddyn nesaf yn golygu y bydd mwy o yrrwyr yn cael cynnig cwrs ymwybyddiaeth cyflymder yn lle pwyntiau a dirwy ond byddai'n rhaid talu o leia Ł60 am fynychu'r cwrs.

Mae Mr Brunstrom yn gobeithio arwain ymgyrch diogelwch ffyrdd newydd a fydd yn weithredol ar draws Cymru yn 2008.

Bydd holl gamerâu cyflymder yng Nghymru yn cael eu rhedeg gan un bartneriaeth ganolog.

"Llwyddiant"

Mae'r Prif Gwnstabl yn honni bod mwyafrif y cyhoedd nawr yn cefnogi ei ymgyrch diogelwch ffyrdd 'Siwrne Saff.'

Yn ôl yr heddlu mae'r ymgyrch wedi arbed bywydau 53 o bobl ers ei lansio yn 2001 a'u bod yn "ystyried" prynu'r camerâu llygaid cathod newydd.

Dywedodd Mr Brunstrom y byddai'r heddlu wastad yn ceisio bod yn dryloyw wrth ddelio gyda'r cyhoedd ac fe fyddai arwyddion yn rhybuddio modurwyr am unrhyw gamerâu cyflymder cudd.

Ond yn ôl Cymdeithas Gyrrwyr Prydain fe fyddai camerâu cyflymder mewn llygaid cathod yn "gam gwael".

Dywedodd llefarydd: "Rydym am weld mwy o heddlu trafnidiaeth ar y ffyrdd yn targedu ymddygiad peryglus. Mae Mr Brunstrom wedi wedi colli cyswllt â'r cyhoedd."


HEFYD
Brwydro yn erbyn dirwyon gyrru
08 Maw 07 |  Newyddion
Camera cyflymder: Achos llys?
20 Hyd 06 |  Newyddion
Bardd yn canmol prif gwnstabl
27 Medi 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^