BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 25 Ebrill 2007, 07:30 GMT 08:30 UK
SÍr o blaid archif lenyddol
Syr Sean Connery
Syr Sean Connery: "Mae'r archif o bwys byd-eang"

Mae enwogion Yr Alban yn cefnogi ymgyrch i brynu un o archifau llenyddol enwoca'r byd.

Yr actor Syr Sean Connery a'r awdur Ian Rankin yw dau o'r enwogion sy'n rhan o ymgyrch Llyfrgell Genedlaethol Yr Alban i brynu archif John Murray.

Saith cenhedlaeth o deulu'r cyhoeddwr o Gaeredin gasglodd yr archif ynghyd.

Mae'n cynnwys llawysgrifau a llythyrau Charles Dickens, Jane Austen, Arglwydd Byron a Syr Arthur Conan Doyle.

Dywedodd yr actor fod yr archif "yn enwog drwy'r byd" ac mi wnaeth ganmol cynllun Llyfrgell Genedlaethol Yr Alban fyddai'n golygu bod pobl Yr Alban a thu hwnt yn cael gweld y cynnwys.

Gwerthodd teulu Murray y casgliad i'r Llyfrgell am £32 miliwn, llai na'i gwerth - er mwyn cadw'r casgliad yng ngwledydd Prydain.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Gweithrediaeth Yr Alban wedi cyfrannu'r rhan fwyaf o'r arian ond roedd angen i'r Llyfrgell godi'r £6.5 miliwn oedd yn weddill neu golli'r archif.

Eisoes mae £1.5 miliwn wedi cael eu codi ac mae angen codi £5 miliwn ychwanegol.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Yr Alban am droi'r cynnwys yn ddigidol yn ogystal ‚ chynnal arddangosfeydd teithiol.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^