BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 23 Ebrill 2007, 12:26 GMT 13:26 UK
Urdd: Cyhoeddi Eisteddfod 2008
Logo Urdd Gobaith Cymru
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar gyrion tref Llandudno

Mae gweithgareddau'n cael eu cynnal yn Sir Conwy yr wythnos hon i groesawu Eisteddfod yr Urdd 2008.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ger Llandudno, Sir Conwy rhwng Mai 26 a 31 2008.

Dywedodd Sian Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau: "Ymfalchïwn fod Eisteddfod yr Urdd yn dod i Sir Conwy i safle godidog maes Fferm Gloddaeth Isaf, ym Mae Penrhyn ar gyrion tref Llandudno.

"Eisoes mae cydweithio arbennig rhwng Cyngor Sir Conwy, gwirfoddolwyr yr ardal, ein haelodau a'r Eisteddfod".

Yr wythnos hon bydd gweithdai hip hop mewn cydweithrediad â Menter Iaith Conwy.

Bydd Ed Holden ac Aneirin Karadog o'r band Genod Droog yn ymweld â holl ysgolion uwchradd y sir i gynnal gweithdai ar gyfer disgyblion chweched dosbarth.

Ar gyfer disgyblion ysgol Blynyddoedd 5 a 6 bydd "gŵyl hwyl chwaraeon campau'r ddraig" nos Fawrth, a gweithgareddau awyr agored yn Nant Bwlch yr Haearn ar nos Fawrth a nos Iau ar gyfer uwchadrannau ac aelwydydd y sir.

Byddwn ni'n gwneud yn siŵr fod bwrlwm yn cyrraedd pob twll a chornel o'r sir, o'r glannau i'r caeau a'r bryniau
Dilwyn Price, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith

Bydd cyngerdd mawreddog yn Eglwys Sant Paul, Bae Colwyn, am 7.30 pm nos Fercher - eitemau amrywiol gan ysgolion uwchradd, uwchadrannau ac aelwydydd sir Conwy yn ogystal â pherfformiadau unigolion y sir.

Ar nos Wener Ebrill 27 bydd coelcerthi yn llosgi yn ardaloedd Bro Cernyw, Uwchaled, Abergele, Llanrwst, Llanfairfechan a Bae Colwyn er mwyn creu'r syniad fod pob ardal ar dân eisiau hyrwyddo'r Eisteddfod.

Gorymdaith

Bydd gorymdaith fawr drwy ganol tref Llandudno ddydd Sadwrn Ebrill 28 - yn dechrau yn North Western Gardens am 11.30am ac yn cyrraedd y prom am 12.45.

Ar y prom bydd jambori i'r plant, bandiau yn chwarae, dawnsio gwerin, dawnsio disgo, arddangosfeydd a stondinau yn gwerthu nwyddau a lluniaeth.

O'r prom bydd pawb yn cerdded yn ôl i North Western Gardens i orffen yr orymdaith erbyn 14.45. Bydd y plant i gyd yn gwisgo crysau T coch, gwyn a gwyrdd, a gwisgoedd Cymreig.

Bydd sgiliau syrcas a band drymio yn cerdded gyda'r orymdaith a Mistar Urdd a chymeriadau S4C yn ymuno yn yr hwyl.

"Mae'r ŵyl gyhoeddi'n argoeli i fod yn wythnos fywiog, lawn hwyl, ac yn ffordd ardderchog o ddenu sylw at yr Eisteddfod yn 2008," meddai Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr Urdd Gobaith Cymru.

Yn ôl Dilwyn Price, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith: "Yn ystod yr wythnos byddwn ni'n gwneud yn siŵr fod bwrlwm yn cyrraedd pob twll a chornel o'r sir, o'r glannau i'r caeau a'r bryniau."




HEFYD
Urdd: Uchafbwynt cynllun £5m
20 Ebr 07 |  Newyddion
Urdd: Her newydd i Aled
26 Maw 07 |  Newyddion
Gwefan newydd i'r Urdd
13 Maw 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^