BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 20 Ebrill 2007, 15:29 GMT 16:29 UK
Damwain awyren yn Sir Fôn
jet
Yr awyren ar Faes Awyr Mona ar ôl y ddamwain
Mae awyren jet wedi cwympo i'r ddaear ym Maes Awyr Mona yn Sir Fôn.

Dywedodd yr heddlu fod y peilot wedi dianc cyn i'r awyren Hawk daro'r ddaear tua 12.25pm ddydd Gwener.

Aed â'r peilot i Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle dywedodd llefarydd nad oedd ei anafiadau'n ddifrifol ac mae e bellach wedi cael gadael yr ysbyty.

Dywedodd y Llu Awyr na allai ddweud eto beth oedd achos y ddamwain.

Anfonodd Gwasanaeth Tân y Gogledd bedair injan dân, dau gerbyd argyfwng ac uned reoli.

Cafodd tîm achub a hofrennydd y Llu Awyr eu hanfon i'r safle.

'Ymchwiliad'

Mae Maes Awyr Mona ryw bum milltir o Faes Awyr y Fali, canolfan y llu awyr ar gyfer hyfforddi peilotiaid awyrennau Hawk.

Dywedodd Mark Byrne ar ran y Llu Awyr yn Y Fali: "Mi alla i gadarnhau mai un person oedd ar fwrdd y jet. Byddwn ni ddim yn ceisio dyfalu beth oedd achos y ddamwain gan fod ymchwiliad wedi dechrau ... "

A dywedodd Dennis Morris, 68 oed sy'n byw ym Modffordd, ei fod yn meddwl ei fod wedi clywed "sŵn damwain car difrifol."

Maes Awyr Mona
Dywedodd y Llu Awyr na allai ddweud eto beth oedd achos y ddamwain

"Roedd yna sŵn metal yn gwichian. Pan edrychais i allan mi welais i awyren wedi ei thorri yn ddwy.

"Mi es i allan a gweld fod y peilot wedi glanio mewn coed a'i sedd yn y cae nesa."

Ym Medi 2001 fe blymiodd awyren Hawk i'r ddaear i gae gyferbyn â Maes Awyr Mona. Llwyddodd y peilot o Ganolfan Llu Awyr Fali i ddianc.

Ar y pryd dywedodd trigolion Bodffordd eu bod yn poeni am nifer y peilotiaid oedd yn cael eu hyfforddi yn y Fali.




HEFYD
Peilot: Diolch am achub ei fywyd
14 Chwef 07 |  Newyddion
Awyren fechan yn plymio i'r ddaear
11 Medi 06 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^