BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 22 Ebrill 2007, 09:21 GMT 10:21 UK
Penblwydd Friars yn 450
Hen safle Ysgol Friars
Mae hen safle Ysgol Friars yn cael ei ddefnyddio gan Goleg Menai .
Mae un o ysgolion hynaf Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 450.

Cafodd Ysgol Friars ym Mangor ei sefydlu yn 1557, 20 mlynedd wedi'r Ddeddf Uno a chyn i gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg ddechrau.

Roedd gweithgareddau dros y Sul i ddathlu'r achlysur, gan gynnwys gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan Bangor.

Dywedodd Neil Foden, prifathro Friars, y bydden nhw'n defnyddio'r achlysur i atgoffa disgyblion beth oedd hanes ac etifeddiaeth yr ysgol.

"Byddwn ni'n cynnal nifer o arddangosfeydd yn yr ysgol.

"Mae'n gyfle i atgoffa disgyblion o draddodiad yr ysgol a rhoi cyfle iddyn nhw ymchwilio ychydig i hanes y cyfnod.

"Bydd o'n dangos eu bod nhw'n rhan o ysgol hanes cyfoethog, ac etifeddiaeth i ymfalcho ynddi."

Ar safle hen fynachlog y Brodyr Du y cafodd yr ysgol wreiddiol ei chodi yn 1557.

Wedi i Harri'r VIII ddiddymu'r mynachlogydd cafodd y safle ei brynu yn 1553 gan Geoffrey Glynne.

Gwisg ddu

Yn ei ewyllys rhoddodd yr adeilad, y tir, a'r rhan fwyaf o'i eiddo personol er mwyn sefydlu ysgol ramadeg.

Mae disgyblion yr ysgol yn parhau i wisgo gwisg ddu, sef y lliw yr arferai'r mynaich ei wisgo.

Dywedodd Brian Jones, cynddisgybl oedd yn rhan o weithgareddau'r penwythnos, fod y penblwydd yn arbennig.

"Mae rhai o golegau Rhydychen ac efallai Caergrawnt yn dyddio'n l i gyfnod Harri'r VIII, felly mae dathlu penblwydd yn 450 yn unigryw."

Merched

Fe barodd yr ysgol wreiddiol tan 1789 pan adeiladwyd ail ysgol ar y safle.

Cafodd merched eu derbyn i Ysgol Friars yn 1971.

Symudodd yr ysgol i safle newydd yn 1999 ac mae Coleg Menai ar yr hen safle.

Erbyn heddiw mae 1,217 o ddisgyblion yn yr ysgol.


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^