Question Time: Mr Morgan yn cael ei holi
|
Mae Rhodri Morgan wedi dweud y byddai fwy na thebyg wedi pleidleisio yn erbyn rhyfel Irac pe bai'n Aelod Seneddol.
Dywedodd wrth BBC Cymru ddydd Llun ei fod yn rhannu'r un daliadau a'i wraig Julie Morgan, AS Gogledd Caerdydd, a Kevin Brennan, AS Gorllewin Caerdydd, ac y byddai'n fwy na thebyg wedi pleidleisio fel nhw.
Yn ôl arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, roedd yn sefyllfa gymhleth ar y pryd a'r penderfyniad i bleidleisio o blaid neu yn erbyn yn agos.
Ar raglen BBC Question Time yn Chwefror 2006 fe wrthododd Mr Morgan ddweud a oedd o blaid y rhyfel neu beidio.
Dro ar ôl dro ni atebodd gwestiynau am y rhyfel a dweud fod hynny'n fater i Aelodau Seneddol.
'Pedair blynedd'
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu Mr Morgan am gymryd cymaint o amser cyn penderfynu.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid: "O'r diwedd, diolch byth mae Rhodri Morgan wedi gwneud penderfyniad ar ôl pedair blynedd."
Mae Nick Bourne, Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, wedi croesawu sylwadau Mr Morgan.
"Ar ol 14 mis, sef y tro cynta y gofynnwyd y cwestiwn iddo fe, ry'n ni'n falch iawn bod Rhodri Morgan wedi mynegi ei safbwynt ar y rhyfel yn irac - hyd yn oed os yw ei ateb ychydig yn annelwig.
"Mae pobl Cymru am wybod beth yw safbwynt arweinwyr gwleidyddol ynglŷn â materion pwysig fel y rhyfel yn Irac."
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, roedd angen i bobl Cymru ddeall yn union beth oedd ei safbwynt am y rhyfel.
"Mae'n hen bryd iddo fe ddweud yn glir beth yw ei ddaliadau." meddai.