BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 8 Mai 2007, 12:00 GMT 13:00 UK
ISLWYN

Nes 1999, ystyriwyd Islwyn (hen etholaeth Bedwellte Neil Kinnock gynt) yn un o'r seddi Llafur mwyaf diogel yn y DU.

Ond yn rhyfeddol, fe gwympodd i Blaid Cymru yn etholiadau cyntaf y Cynulliad ym 1999, gyda gogwydd nominal rhyfeddol o fwy na 35%.

Cafodd Brian Hancock o Blaid Cymru fuddugoliaeth o 600 dros ymgeisydd Llafur.

Daliodd Don Touhig, yr AS Llafur, ei afael ar y sedd seneddol yn hawdd yn 2001 ac wedi hynny enillodd y blaid sedd y Cynulliad o ddwylo Plaid Cymru yn 2003.

Erbyn hyn, ystyrir fod hon yn sedd ddiogel i Lafur - ond mae canlyniad 1999 yn fyw yng nghof y blaid o hyd.

Mae'r sedd - cyn ddosbarth glofaol yn rhanbarth y de ddwyrain - yn rhan o ardal awdurdod lleol Caerffili, a bleidleisiodd Ie yn refferendwm datganoli 1997 gyda mwyafrif o 5,989.

Erbyn hyn, mae'r awdurdod lleol yn nwylo Llafur, sydd mwyafrif bach dros Blaid Cymru - er yr enillodd Plaid Cymru reolaeth ar y Cyngor hefyd ym 1999.

Mae'r sedd yn cynnwys tref Rhisga ar gyrion gogleddol Casnewydd, tref gymudwyr cymharol ffyniannus y Coed Duon a chymuned fwy difreintiedig Trecelyn.

Mae Islwyn yn hynod o Saesneg ei iaith, er ei fod yn cymryd ei enw oddi wrth y bardd Cymraeg o'r un enw o'r 19eg ganrif.




Etholiad Y Cynulliad

CANLYNIADAU'R CYNULLIAD

Plaid Eth. Rhan. +/- Cyf
Ar l cyhoeddi 60 o'r 60 sedd
Llaf 24 2 -4 26
Plaid Cymru 7 8 +3 15
Ceid 5 7 +1 12
DemRh 3 3 0 6
Erill 1 0 0 1
DIWEDDARA

Vaughan Roderick Vaughan Roderick
Sylwadau dyddiol a deifiol am ymgyrch y pleidiau


Cymru Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob etholaeth a rhanbarth

CEFNDIR

SEDDI ALLWEDDOL
 
ETHOLAETHAU CYMRU
 

YR ARWEINYDDION
 

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD
 
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^