BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 7 Ebrill 2007, 09:39 GMT 10:39 UK
Breuddwyd rhwyfo myfyriwr
Tom James
Dywed Tom James ei fod yn falch i fod yn rhan o hanes

Myfyriwr peirianneg o Wrecsam sy'n ceisio helpu Caergrawnt i fuddugoliaeth yn erbyn Rhydychen yn y ras flynyddol rhwng y ddwy brifysgol.

Eleni fydd y 153 ras rhwyfo rhwng Caergrawnt a Rhydychen.

Llywydd Clwb Rhwyfo Caergrawnt ydi Tom James o bentre Coedpoeth ger Wrecsam.

Mae o wedi bod yn ymarfer gyda'i griw ar hyd Afon Dyfrdwy.

Rhydychen sydd wedi bod yn fuddugol yn 2006 a 2005 ond mae Tom yn gobeithio nad nhw fydd yn ennill ddydd Sadwrn.

"Rydw i a'r tīm yn teimlo ein bod yn perthyn i glwb arbennig," meddai cyn y ras.

"Fyddwn ni'n rhan o hanes."

Hyfforddi'n galed

Bu'r tīm yn hyfforddi ar Afon Dyfrdwy yn ardal Caer yn ddiweddar.

Eglurodd Tom bod hyn er mwyn cael amrywiaeth i'r ymarfer caled sydd angen cyn y ras.

Tīm Caergrawnt yn hyfforddi ar Afon Dyfrdwy
Bu criw Caergrawnt yn hyfforddi ar Afon Dyfrdwy ger Caer

Gall hyfforddi ar gyfer y ras olygu dwy awr o godi pwysau cyn brecwast a chymaint ag 11 sesiwn ymarfer yr wythnos.

"Mae'n anodd iawn ond dyna sydd angen ei wneud," eglurodd.

"Mae'r criw yn athletwyr arbennig o dda ac mae ganddyn nhw ddyheadau i lwyddo."

Tua 20 munud mae'r ras yn bara ar hyd Y Tafwys ac mae gan y ddau dīm eu cefnogwyr.

Ffrindiau da

Eglurodd Tom bod gofynion yr hyfforddi wedi newid ei gyfnod yn y brifysgol ond bod ganddo ffrindiau da iawn.

"Mae'n effeithio ar eich bywyd cymdeithasol.

"Rydym yn dal i gael hwyl ond allwch chi ddim mynd allan ag yfed drwy'r amser.

"Ond fe wnewch chi ffrindiau da am oes."

Dywedodd ei fod yn rhan o hanes sy'n parhau.

"Mewn 50 mlynedd, fe fyddaf yn dod yn ōl i'r coleg a bydd fy enw yno," meddai.

Fe fydd y ras yn cychwyn o Putney am 4.30pm ddydd Sadwrn cyn gorffen yn Mortlake.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^