BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Ebrill 2007, 11:29 GMT 12:29 UK
Canlyniad gwael: Morgan i adael
Rhodri Morgan
Fe wnaeth Mr Morgan ddweud cyn hyn y byddai'n ymddeol yn 2009

Mae Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru wedi dweud am y tro cyntaf y bydd yn ymddeol pe bai Llafur yn colli'n drwm yn yr etholiad.

Eisoes mae Rhodri Morgan, 67 oed, wedi dweud ei fod am roi'r gorau'r i'w swydd fel Prif Weinidog Cymru yn 2009.

Ond mae'r newyddion diweddaraf yn awgrymu y gallai adael ei swydd yn gynt os yw'r Blaid Lafur yn colli seddi allweddol ar Fai 3.

Dydd Iau dywedodd wrth BBC Cymru: "Bydda i'n gwybod os yw'r blaid wedi colli'n wael ac, os felly, fe fydda i'n ymddeol achos dyna beth fyddai pob gwleidydd sy'n derbyn y canlyniad yn 'i wneud."

Er mai ymgais efallai i sicrhau pleidleisiau i Lafur yw hyn, mae'r datganiad yn siŷr o achosi ansicrwydd ymysg yr etholwyr yn ystod y cyfnod pwysig hwn.

Os yw pobl am i fi adael, mae modd iddyn nhw wneud hynny drwy bleidleisio yn erbyn Llafur - dyna'r brif neges
Rhodri Morgan

"Os yw pobl am i fi adael, mae modd iddyn nhw wneud hynny drwy bleidlesio yn erbyn Llafur - dyna'r brif neges."

Yn 2005 dywedodd Mr Morgan - sy'n hŷn na'r oedran ymddeol - ei fod "yn iach" ac am barhau tan y byddai'n diflasu ar ei swydd.

Roedd wedi dweud y byddai'n arwain y Blaid Lafur yn etholiad y Cynulliad nesaf, sydd ymhen y mis.

Ond roedd wedi dweud y byddai'n rhoi'r gorau i'w swydd hanner ffordd drwy dymor nesa'r cynulliad os oedd yn Brif Weinidog o hyd.

'Cyfaddefiad'

Daeth yn Brif Weinidog Cymru (neu'n Ysgrifennydd Cyntaf ar y pryd) yn 2000 wedi ymddiswyddiad Alun Michael.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad, Nick Bourne, wedi dweud bod sylwadau diweddara Mr Morgan yn "gyfaddefiad rhyfeddol arweinydd plaid mor agos at yr etholiad".

"Mae'n gwybod bod yr ysgrifen ar y mur ac y bydd allan o waith ymhen 28 niwrnod."

Dywedodd dirprwy arweinydd Plaid Cymru yn y cynulliad, Rhodri Glyn Thomas: "Mae'n amlwg bod Rhodri Morgan yn derbyn yr anochel.

'Colli hyder'

"Bydd angen Prif Weinidog newydd ar Fai 4 yng Nghymru gyda gweledigaeth glir i Gymru - Plaid Cymru ac Ieuan Wyn Jones yw'r unig ddewis call."

Yn l arweinydd y Democratiaid yn y cynulliad, Mike German, mae'r newyddion diweddaraf yn cadarnhau'r hyn y mae pawb yn ei wybod.

"Mae pobl Cymru wedi colli hyder yn y Blaid Lafur oherwydd y Rhyfel yn Irac ac am eu bod nhw wedi torri addewidion fel gofal cartref am ddim i'r henoed."




Etholiad Y Cynulliad

CANLYNIADAU'R CYNULLIAD

Plaid Eth. Rhan. +/- Cyf
Ar l cyhoeddi 60 o'r 60 sedd
Llaf 24 2 -4 26
Plaid Cymru 7 8 +3 15
Ceid 5 7 +1 12
DemRh 3 3 0 6
Erill 1 0 0 1
DIWEDDARA

Vaughan Roderick Vaughan Roderick
Sylwadau dyddiol a deifiol am ymgyrch y pleidiau


Cymru Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob etholaeth a rhanbarth

CEFNDIR

SEDDI ALLWEDDOL
 
ETHOLAETHAU CYMRU
 

YR ARWEINYDDION
 

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD
 
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^