BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Ebrill 2007, 17:02 GMT 18:02 UK
Teuluoedd morwyr 'wrth eu bodd'
Corporal Dean Harris
Dean Harris un o'r tri Cymro oedd ymhlith y 15 morwr gafodd eu cipio gan Iran
Mae teuluoedd a ffrindiau tri morwr o Gymru yn dathlu ar l clywed arlywydd Iran yn dweud y bydd 15 o forwyr Prydain yn cael eu rhydau.

Mae Andrew Henderson, 24 oed, o Goedpoeth ger Wrecsam, yn un o'r 15 gafodd eu cipio gan luoedd Iran bron i bythefnos yn l.

Dywed ei rieni, Diane a Ted Henderson, eu bod yn teithio i Plymouth i gwrdd 'u mab.

Yn l chwaer Diane, Barbara, mae'r teulu wrth eu bodd.

"Mae wedi bod yn amser anodd iawn i bawb."

Yn l arlywydd Iran, Mahmoud Ahmadinejad, mae'r 15 morwr yn rhydd i adael ei wlad.

Roedd hwn, meddai, yn "rhodd" i Brydain ac mae Downing Steet wedi croesawu hyn.

Mae dau arall o Gymru ymhlith y 15.

Daw Felix Carman o Bort Einon, Penrhyn Gŵyr, a'r Corporal Dean Harris o ardal Caerfyrddin.

Dywedodd Gareth Owen, ffrind gorau'r Corporal Harris, fod hyn yn newyddion gwych.

"Rwy'n gwneud yn siwr y bydd yna beint o gwrw ar gael erbyn pryd y bydd yn l gartre."

Dywed Iran fod y 15 wedi mynd i ddyfroedd Iran pan gawsant nhw eu dal.

Mae Llywodraeth Prydain yn gwadu hynny, gan ddweud fod eu llong yn nyfroedd Irac.

Yn l llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llundian mae'n rhy gynnar i ddweud pryd bydd y morwyr yn l ym Mhrydain.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^