Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru sy'n bwrw golwg ar faterion y dydd. Mae croeso i chi anfon eich sylwadau aton ni isod.
Dydd Mercher, Ebrill 4
Sect eithaf rhyfedd yw'r Blaid Geidwadol y dyddiau hyn, eu hoffeiriaid yn Gymreig ac yn rhyddfrydol ond trwch yr haelodaeth yn parhau i addoli wrth hen allorau. Gan mai'r aelodau sy'n dewis yr ymgeiswyr mae'r arweinyddiaeth yn canfod ei hun mewn picl mewn sawl ardal.
Wrth i enwebiadau ar gyfer etholiad y cynulliad gau heddiw roedd arweinyddiaeth y blaid wrthi'n gwneud eu gorau glas i berswadio Chris Smart, yr ail enw ar eu rhestr yng Ngorllewin De Cymru, i dynnu ei enw'n ôl ac mewn mwy nag un etholaeth mae'r arweinyddiaeth yn ofni bod yr aelodaeth leol wedi dewis yr ymgeisydd anghywir.
Y broblem yw bod yr aelodaeth yn rhy aml yn mynnu dewis eu dyn ei hun yn lle dynion neu ferched y blaid ganolog, Darren Miller yn lle Dylan Jones Evans yng Ngorllewin Clwyd, er enghraifft.
O ganlyniad mae un posibilrwydd erchyll wedi taro rhai o fewn y blaid. Mae'n ddigon posib y bydd pob un aelod Ceidwadol yn y cynulliad nesaf yn ddynion.
Methiant
Mae methiant Laura Ann Jones i sicrhau'r enwebiad ym Mynwy yn golygu y bydd hi'n gorfod ceisio ennill yr ail sedd restr yn Nwyrain De Cymru.
Fe lwyddodd i wneud hynny o ychydig gannoedd yn unig y tro diwethaf a dyw pethau ddim yn debyg o fod yn hawdd y tro yma.
Yn yr un modd mae Lisa Francis yn sicr o sylweddoli y byddai buddugoliaeth i Paul Davies ym Mhreseli Penfro yn golygu diwedd i'w gyrfa hi fel trydydd aelod rhestr y Gorllewin a'r Canolbarth.
Does 'na ddim byd llawer y gallai'r blaid ei wneud am yr hyn fydd yn digwydd oherwydd hap a damwain ein system etholiadol ryfedd a dewisiadau ei haelodau lleol.
Hwb
Ond mae'n debyg bod y penderfyniad i lansio maniffesto'r blaid yn Nelyn yn ymgais i roi hwb i ymgyrch Antoinette Sandbach yn Nelyn fel rhywfath o bolisi yswiriant. Cawn weld a fydd hynny'n ddigon i'w hachub rhag cael grŵp cwbl wrywaidd.
Os oes gennych chi sylw gallwch ein e-bostio isod.
Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.