BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Ebrill 2007, 15:29 GMT 16:29 UK
Morgan: 'Cymru'n ffynnu'
Rhodri Morgan
Rhodri Morgan: 'Ymrwymiad i bobl y gogledd'

Mae'r Blaid Lafur wedi dechrau ymgyrchu ar gyfer etholiad y cynulliad.

Dydd Mawrth cyhoeddodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Rhodri Morgan, faniffesto ar gyfer gogledd Cymru yn unig.

Yn Hen Golwyn dywedodd fod ei blaid am ddangos ymrwymiad amlwg i drigolion gogledd Cymru.

Wrth lansio'r maniffesto, dywedodd fod y blaid "yn trin gogledd Cymru o ddifri, gan fynd i'r afael 'r gred fod y cynulliad yn rhywbeth i Gaerdydd, ac i'r De yn unig."

Addewidion y blaid ym maes iechyd oedd fwya amlwg.

Yn ogystal 'r addewid i ddiogelu dyfodol Ysbyty Llandudno roedd addewid na fyddai rhaid i unrhywun aros yn fwy na 26 wythnos i gael triniaeth mewn ysbyty.

33,000 o swyddi

Ar ben hyn, mae'r blaid wedi addo cyflogi pobl i lanhau ysbytai yn uniongyrchol yn lle rhoi'r gwaith i gwmniau preifat.

Os bydd y blaid yn ennill grym, maen nhw'n addo creu dros 33,000 o swyddi i ddeintyddion newydd yn y gogledd.

Gofynnodd Mr Morgan i drigolion y gogledd ymddiried yn y Blaid Lafur unwaith eto.

"Rydyn ni wedi darparu presgripsiynau am ddim ac rydyn ni'n wedi buddsoddi yn y maes iechyd.

"Mae gweddill Prydain yn cenfigennu aton ni am fod y Cymry'n cael moddion am ddim, ac am fod y gwaharddiad smygu wedi dod i rym ymhell cyn Lloegr."

1,000 o dai

Ac mae Llafur wedi addo codi 1,000 o dai i'w rhentu neu eu prynu am bris fforddiadwy yng Ngogledd Cymru.

Wrth ddenu busnesau preifat i safleoedd yng Nghyffordd Llandudno ac yn Llanelwy mae'r blaid yn hyderus y gallan nhw ddenu mwy o swyddi i'r gogledd.

Dywedodd Mr Morgan ei fod am i bobl y gogledd wybod bod y blaid lafur wedi ymrwymo i'r gogledd.

"Mae Cymru'n ffynnu ac mae'r Blaid Lafur yn ffynnu," meddai.




Etholiad Y Cynulliad

CANLYNIADAU'R CYNULLIAD

Plaid Eth. Rhan. +/- Cyf
Ar l cyhoeddi 60 o'r 60 sedd
Llaf 24 2 -4 26
Plaid Cymru 7 8 +3 15
Ceid 5 7 +1 12
DemRh 3 3 0 6
Erill 1 0 0 1
DIWEDDARA

Vaughan Roderick Vaughan Roderick
Sylwadau dyddiol a deifiol am ymgyrch y pleidiau


Cymru Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob etholaeth a rhanbarth

CEFNDIR

SEDDI ALLWEDDOL
 
ETHOLAETHAU CYMRU
 

YR ARWEINYDDION
 

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD
 
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^