Am wyth mlynedd bu Sue Essex yn rhan o'r llywodraeth
|
Gyda'r ymgyrchu etholiadol wedi cychwyn yn swyddogol nid pawb fydd yn dychwelyd i Fae Caerdydd.
Nid pawb chwaith fydd yn brwydro i ail ennill eu lle yn y Senedd.
Llond llaw o aelodau sydd wedi penderfynu peidio ag ail-sefyll fel ymgeiswyr ac felly maen nhw wedi ffarwelio â'r siambr am y tro olaf fel aelodau etholedig.
Yr amcan i'r mwyafrif yw dychwelyd i'r Senedd ar ôl yr etholiad ar Fai 3.
Pedwar o'r aelodau presennol sydd wedi penderfynu gadael gwleidyddiaeth Bae Caerdydd.
Darllen a garddio
Pan fydd y Cynulliad yn ail-agor ym mis Mai fe fydd 'na wynebau newydd yn eistedd yn seddi David Davies, Janet Davies, Owen John Thomas a Sue Essex.
Mae Owen John Thomas yn edrych ymlaen at ymlacio
|
Dydi presenoldeb eu cyd-aelodau ddim yn sicr chwaith - ond penderfyniad yr etholwyr fydd hynny.
Penderfynodd Owen John Thomas, aelod Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, na fyddai'n ymladd etholiad arall yn fuan ar ôl ail ennill ei sedd bedair blynedd yn ôl.
Mae o wedi cael hen ddigon o amser felly i ystyried ei ddyfodol.
"Dwi moyn cael rwtîn, sicrhau fy mod yn codi yn y bore yn ysu i fynd ati.
"Mae angen cael cydbwysedd rhwng gwneud pethau fel darllen, ysgrifennu a gwylio teledu gyda phethau corfforol a chadw'n iach fel cerdded a gweithio yn yr ardd."
Ers 1999 mae Janet Davies wedi bod yn AC dros dde orllewin Cymru
|
Yn ogystal ag Owen John Thomas, mae un aelod arall o Blaid Cymru, Janet Davies, wedi penderfynu rhoi'r gorau i'r byd gwleidyddol.
'Rwyf yn 69 oed ym mis Mai eleni, felly dwi'n teimlo ei bod hi'n hen amser i mi ymddeol fel Aelod Cynulliad," meddai.
"Ac er fy mod i wedi mwynhau fy amser yn y Cynulliad, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymlacio, a chael byw bywyd preifat."
Mwy o rym
Ond tra bod Owen John Thomas a Janet Davies yn gadael rheng flaen gwleidyddiaeth, fe fydd yr aelod Ceidwadol dros Fynwy, David Davies, yn parhau fel aelod etholedig yn San Steffan.
"Dywedais cyn sefydlu'r Cynulliad bod angen mwy o rym a bod y peth yn costio mwy o arian.
Parhau i gynrychioli Mynwy fydd David Davies, fel AS nid AC
|
"Gwaetha'r modd mae hyn wedi digwydd.
"Mae'n fy siomi bod ACau wedi galw am fyw o rym ar ôl ychydig flynyddoedd yn unig, yn enwedig o gofio bod hanner yr etholwyr wedi pleidleisio yn erbyn y cynulliad."
Mae David Davies ac Owen John Thomas wedi treulio wyth mlynedd ar feinciau'r gwrthbleidiau.
Ond yn ogystal ag ildio'i sedd fel aelod Gogledd Caerdydd mae Sue Essex hefyd yn gadael swydd yng Nghabinet Rhodri Morgan.
Be nesa i gyn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru?
"Does gen i ddim cynlluniau ar hyn o bryd ond fe fydd yn braf cael seibiant.
"Gallaf wneud y pethau arferol nad ydi gwleidyddion ddim yn cael yr amser i'w gwneud."