BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 30 Mawrth 2007, 12:56 GMT 13:56 UK
Cwmni ceir: Colli 175 swydd
Visteon
Mae'r ffatri'n cynhyrchu echelau a systemau brecio

Mae 175 o weithwyr dros dro'n colli eu gwaith yng nghwmni cyd-rannau ceir Visteon ger Abertawe, medd y cwmni.

Y rheswm yw bod yr adran gastio'n dod i ben yn ffatri Ford yn Leamington y mae Visteon yn ei chyflenwi ‚ systemau brecio.

Does dim manylion am amserlen y diswyddiadau oherwydd bydd rhai'n ddiswyddiadau gwirfoddol.

Ond mae undebau am wrthwynebu'r colli swyddi ac yn gofyn i weithwyr ystyried gweithredu'n ddiwydiannol.

Roedd y 570 yn ffatri Abertawe wedi bod yn poeni wedi i Visteon gyhoeddi fod y ffatri ar werth y llynedd.

Methodd cais cwmni peirianyddol GKN i brynu'r safle cyn y Nadolig ond mae Visteon am werthu'r ffatri sy'n cynhyrchu echelau a systemau brecio.

Dros y chwe blynedd diwethaf mae'r cwmni, sydd ‚ ffatrÔoedd yn Essex a Belfast, wedi colli $500 miliwn.




HEFYD
Prynwr i gwmni cydrannau ceir
17 Tach 06 |  Newyddion
Dyfodol ansicr i ffatri geir
09 Tach 06 |  Newyddion
Undeb yn pryderu am ddyfodol ffatri
14 Ion 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^