Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru sy'n bwrw golwg ar faterion y dydd. Mae croeso i chi anfon eich sylwadau aton ni isod.
Dydd Gwener, Mawrth 30
Daeth yr amser i ffarwelio â'r Bae, am y tro o leiaf.
Mae'r cyfrifiaduron (ac eithrio hwn) yn eu bocsys yn barod i fynd i'r BBC yn Llandâf ac ar lawr cyntaf Tŷ Crughywel mae'r adeiladwyr wrthi yn rhwygo hen gelfi allan o'r ffreutur.
O hyd mae cryn nifer o borthoroion a gweision sifil yma ond gyda'r siambr a'r ystafelloedd pwyllgor yn wag mae calon ac enaid y lle wedi diflannu.
Yn dechnegol, mae Aelodau'r Cynulliad yn cadw'r statws hwnnw am beth amser eto ond, i bob pwrpas, ymgeiswyr ydyn nhw nawr, ymgeiswyr sy'n brwydro i gadw eu swyddi.
Yr eithriadau yw'r pedwar aelod sy'n gadael y lle yma o'u gwirfodd.
Porfeydd eraill
Beth felly am achub ar y cyfle i ffarwelio â nhw?
Symud i borfeydd eraill y mae David Davies.
Cwrddais â David gynta pan oedd e'n un o weithwyr ifanc yr ymgyrch Na i ddatganoli yn 1997. Ar y pryd doedd gen i fawr o feddwl ohono.
Go brin yr oeddwn yn disgwyl y byddai'r glaslanc nerfus yn troi'n un o wleidyddion amlycaf Cymru.
Er hynny, mae David yn enigma. Does bron neb yn y cynulliad (gan gynnwys y Ceidwadwyr) yn rhannu ei wleidyddiaeth.
Hoff iawn
Eto i gyd mae bron pawb yn hoff iawn ohono.
Yng ngeiriau un Democrat Rhyddfrydol "sut mae David yn gallu bod yn foi mor neis yn neuadd y cynulliad ac yn gymaint o ****** yn y siambr?"
Mae rhai o hoelion wyth Plaid Cymru Janet Davies a Owen John Thomas yn ein gadael ni.
Mae Janet yn un o'r gwleidyddion tawel ond effeithiol hynny nad yw ei chyfraniad wastad yn cael ei werthfawrogi y tu fas i furiau'r Senedd.
Un o gymeriadau'r cynulliad, ar y llaw arall yw Owen John.
Fy hoff atgof ohono yw un o'i gyfraniadau yn y pwyllgor arlwyo.
Cwyno oedd Owen fod yna ormod o fwydydd "egsotig" yn cael eu gwerthu yn y ffreutur.
"Cymerwch enghraifft ... y pastai cyw iâr," meddai "mae yna fadarch ynddyn nhw ac mae lot o bobol yn casáu madarch".
'Rhesymol'
Yn olaf, gair neu ddau am y Dirprwy Brif Weinidog Sue Essex sy'n ymddeol ar ôl chwarter canrif o fywyd cyhoeddus.
Gallai'r geiriau "cynhwysol" a "rhesymol" fod wedi eu bathu i ddisgrifio Sue, un o fy hoff wleidyddion.
Yn y dyddiau pan oedd Russell Goodway yn rhedeg Cyngor De Morgannwg â disgyblaeth haearnaidd roedd Sue yn bennaeth ar Gyngor Caerdydd.
Roedd y gwrthgyferbyniad rhwng awyrgylch Neuadd y Sir a Neuadd y Ddinas yn ysgytwol.
Ym Mharc Cathays roedd y swyddogion yn agored a chyfeillgar. Roedd y gwrthbleidiau'n cael eu parchu a'u clywed.
Roedd Glanfa Iwerydd yn debycach i'r Cremlin - caer yn llawn o gyfrinachedd a sibrydion.
Mae'n deyrnged i Sue fod yna lawer mwy o ethos hen gyngor Caerdydd yn y cynulliad na sy 'na o draddodiad "Llafur- doed a ddelo" De Morgannwg.
Os oes gennych chi sylw gallwch ein e-bostio isod.
Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.