Dangosiad cynta: Seachd
|
Mae'r ffilm nodwedd Aeleg gynta yn cael ei dangos am y tro cynta yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd sy'n dechrau ar yr Ynys Hir yn Yr Alban ddydd Mercher.
Un o gynhyrchwyr ffilm mwya profiadol Yr Alban sy' wedi cynhyrchu'r ffilm.
Y gred yw taw dim ond un ffilm hir gafodd ei chynhyrchu yn yr iaith o'r blaen, Hero, yn nechrau'r 1980au.
Mae'r ffilm newydd yn cael ei dangos yn yr ŵyl (Fèis nam Meadhanan Ceilteach) yn Portreeve cyn cael ei dangos mewn sinemâu ym Mhrydain yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Ffilm uchelgeisiol yn "llawn hud a mytholeg" yw Seachd (y gair Gaeleg am saith) gafodd ei ffilmio yn haf 2006 gan Christopher Young.
Dryllio
Yn y ffilm mae bywyd bachgen ifanc Angus, sy'n siarad Gaeleg, yn cael ei ddryllio wedi marwolaeth ei rieni fu farw wrth geisio achub dringwr yn un o lefydd mwya peryglus ynys.
Mae Angus, ei frawd a'i chwaer, yn byw gyda'u mam-gu a'u tad-cu a'r plant yn cael hanes yr Ynysoedd a'r Ucheldiroedd ers cyfnod y Llychlynwyr.
"Y nod yw creu ffilm sy'n apelio at gynulleidfa eang, nid siaradwyr yr iaith yn unig," meddai Christopher sy'n siarad Gaeleg ac yn byw ar yr Ynys Hir lle cafodd Seachd ei ffilmio.
Ddwy flynedd yn ôl fe gynhyrchodd ffilm chwarter awr o hyd am hen ddyn yn adrodd stori o'r Oesoedd Canol ac mae'r ffilm newydd yn defnyddio'r un plot a chymeriadau.
"Hon yw'r ffilm nodwedd gynta yn yr iaith a bydd y dangosiad cynta heno," meddai John Morrison, swyddog gwasg yr ŵyl ffilmiau.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr ati. Ein gobaith ni yw y bydd mwy o ffilmiau wrth i sianel deledu ddigidol Aeleg ddechrau yn ddiweddarach yn y flwyddyn."
Cafodd £600,000 eu neilltuo i gynhyrchu Seachd.
'Hyder'
"Mae 'na le i sinema Aeleg ochr yn ochr â sinema sy' ddim yn Saesneg yn y farchnad fydeang," meddai Christopher.
"Roeddwn i am ddatblygu talent Aeleg newydd ac roedd tîm o bum awdur a phedwar cyfarwyddwr yn cydweithio i greu'r ffilm."
Y BBC yn Yr Alban a'r Gwasanaeth Cyfryngol Gaeleg gefnogodd y ffilm yn ariannol.