Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru sy'n bwrw golwg ar faterion y dydd. Mae croeso i chi anfon eich sylwadau aton ni isod.
Dydd Mawrth, Mawrth 27
Yn wahanol i ambell i flogiwr Cymreig arall dydw i ddim yn edmygydd o gylchgrawn y "New Statesman".
Mae erthyglau a safbwyntiau'r "Spectator", er enghraifft, yn aml yn annisgwyl a diddorol tra bod dyn yn tueddu i wybod o flaen llaw beth fydd barn y Statesman am unrhyw bwnc. Dydi'r farn honno chwaith byth ymhell iawn o safbwyntiau ein canghellor personol a'n prif weinidog nesaf.
Roedd yna eithriad i'r rheol yr wythnos hon sef erthygl gan Allan Little, un o ohebwyr diplomyddol y BBC. Nid trafod ei faes llafur oedd Allan ond ysgrifennu am raglen y bu'n paratoi i Radio 4 ynglŷn â'r digwyddiadau yng Nghaeredin yn 1707 a arweiniodd at sefydlu'r Deyrnas Unedig.
Mae'r erthygl yn mynd yn ei flaen i drafod pa mor debygol yw hi y bydd y deyrnas honno yn dirwyn i ben wrth i'r Alban ddewis bod yn wlad annibynnol.
Cred Allan bod hynny'n bur debygol ac mae'n dadlau mai'r person sy'n bennaf gyfrifol am hynny yw nid Alex Salmond neu Winiffred Ewing ond yr arch-Brydeinwaraig ei hun, Margaret Thatcher.
Datgymalu Prydeindod
I wneud ei bwynt mae Allan yn hel atgofion am ei fagwraeth ei hun yn Galloway. Yn nyddiau ei lencyndod, meddai, roedd y wladwriaeth Brydeinig yn rhan annatod o'i fywyd pob dydd.
Y wladwriaeth honno oedd yn berchen y diwydiannau trymion, yn cyflenwi'r nwy, y trydan a'r d ŵr i'w gartref. Y wladwriaeth honno oedd yn dod a'r post, yn trin ei ddannedd ac yn rheoli ei wasanaethau radio a theledu.
Roedd credu ei bod hi'n bosib datgysylltu'r Alban o'r wladwriaeth honno a datgymalu'r holl gysylltiadau cymhleth yn freuddwyd ffôl. Erbyn hyn mae'r sefyllfa'n gwbwl wahanol. Cafodd y diwydiannau trymion eu preifateiddio, felly hefyd y cyflenwyr ynni a dŵr.
Mae 'na gannoedd o sianelu radio a theledu i'w clywed a'u gwylio ac yn 1999 cafodd y cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o'r gwasanaethau cyhoeddus oedd ar ôl eu trosglwyddo i ofal Gaeredin. Yr unig sefydliadau Prydeinig sydd ar ôl yn yr Alban yw'r swyddfa budd-daliadau, y fyddin a'r BBC.
Mae 'na or-ddweud yn fan hyn wrth reswm, ond mae 'na wirionedd hefyd ac mae'r gwirionedd hwnnw hefyd yn wir yng Nghymru. Yn ei lyfr "Diwedd Prydeindod" proffwydodd Gwynfor Evans y gallai hyn ddigwydd.
Awgrymodd bod dyfodol Cymru yn dibynnu nid yn unig ar ei hymwybyddiaeth genedlaethol ei hun ond hefyd ar drai yr ymwybyddiaeth o Brydeindod.
Dyma gwestiwn i chi. Ac eithrio ar adeilad cyhoeddus pryd welsoch chi jac yr undeb ddiwetha? Dyma un arall. Pryd oedd y tro diwethaf i glywed rhywun yn defnyddio'r geiriau "y genedl Brydeinig" neu "The British nation"?
Fe ddaeth y wladwriaeth Brydeinig i fod yn sgil methiant y drefedigaeth Albanaidd yn Darien yn America Ganol. Does dim byd i'w gweld o'r drefedigaeth honno bellach. Cafodd ei thraflyncu gan wres a gwlypter y fforestydd glaw ers canrifoedd. Y cyfan sydd ar ôl ohoni yw atgof o'r hyn oedd a'r hyn a allasai fod.
Mae'n bosib bod rhywbeth tebyg yn digwydd i'r Deyrnas Unedig hefyd a bod y wladwriaeth honno yn raddol ddadmer, heb i ni sylwi bron.
Darlledir rhaglen Allan Little "1707; The Birth of Britain" ar Radio 4 am 1700 ar Ddydd Sul, Ebrill 1.
Os oes gennych chi sylw gallwch ein e-bostio isod.
Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.