Fe fydd y mesur yn rhoi mwy o hawliau i wleidyddion y bae
|
Deddf Llywodraeth Cymru yw'r trosglwyddiad mwyaf o rym o San Steffan i Gymru ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999.
Mae'n rhoi'r pwerau i'r Cynulliad allu creu deddfau ym Mae Caerdydd - a dyma awgrym: edrychwch yn fras ar faniffesto pob un o'r pleidiau ar gyfer etholiad mis Mai a daw yn eithaf amlwg sut yn union maen nhw'n bwriadu defnyddio'r pwerau hynny.
Ond bob tro mae'r Cynulliad yn dymuno derbyn cyfrifoldeb dros greu deddfau mewn maes arbennig o bwerau datganoledig, megis iechyd neu addysg, bydd yn ddibynnol ar bleidleisiau yn y ddau Dŷ yn San Steffan er mwyn cael caniatād i fwrw ymlaen a chreu'r deddfau hynny.
Felly beth all y Cynulliad ei wneud na allai wneud cyn hyn?
Mae'r Cynulliad wedi wynebu rhwystredigaeth yn aros i San Steffan ddod o hyd i'r amser i greu deddfau i Gymru.
Er enghraifft, mae adran weithredol y Cynulliad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn creu Comisiynydd Pobl Hŷn i bledio achos hawliau pensiynwyr.
'Mesurau'r Cynulliad'
Bu'n rhaid i'r mesur i sefydlu'r rōl aros ei dro yn San Steffan cyn ei droi'n ddeddf.
O dan y system newydd, llyfnach, bydd y Cynulliad yn gofyn caniatād San Steffan i ddrafftio'r ddeddfwriaeth ei hunan - ac yna bwrw ymlaen gyda'r gwaith.
Ni fydd hyn yn golygu y gall y Cynulliad wneud popeth yr hoffai.
Dim ond creu deddfau - neu "Fesurau'r Cynulliad" fel y'u gelwir - mewn meysydd sydd eisoes o dan ei adain y bydd y Cynulliad.
Bydd gan y 60 aelod fwy o rym
|
Mae iechyd, addysg a thwristiaeth ar y rhestr ond byddai rhai gwleidyddion yn hoffi creu Gŵyl y Banc ar Ddydd Gŵyl Ddewi, neu gyfreithloni hela llwynogod - ni fydd ganddyn nhw'r pwerau i wneud hyn.
Bydd y materion hynny'n cael eu penderfynu yn San Steffan o hyd, er y gallai rhai ACau dyfeisgar roi gallu'r system newydd yma i herio'r materion yma ar brawf.
Yr hyn y mae pawb - gan gynnwys y gwleidyddion - yn ceisio'i amgyffred yw sut y bydd y system newydd yn gweithio?
Dyma roi cynnig arni.
Trosglwyddo cyfrifoldeb
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gofyn i Ysgrifennydd Cymru am ganiatād i ddeddfu mewn maes arbennig.
Os yw Ysgrifennydd Cymru yn cytuno, yna bydd y cyfrifoldeb dros y gwaith deddfwriaethol a chraffu ar y cynigion yn cael ei drosglwyddo o Lundain i Fae Caerdydd.
Gallai Ysgrifennydd Cymru rwystro ceisiadau i greu deddfau newydd
|
A sylwoch chi ar y gair pwysig, 'os'?
Gallai Ysgrifennydd Cymru, petai ef neu hi'n dymuno, rwystro ceisiadau i greu deddfau newydd ac ni fu'r Ysgrifennydd presennol, Peter Hain, yn betrus o awgrymu y gallai hynny ddigwydd.
Ond hefyd mae'r gwrthbleidiau wedi bod yn galw ar Mr Hain i beidio gwrthod ceisiadau am ddeddfau newydd os oedden nhw ym maniffesto'r blaid sydd mewn grym neu fel y dywed Plaid Cymru, i beidio ā "bod yn Llywodraethwr Cyffredinol".
Feto
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi'r Cynulliad i gynnal refferendwm ar ganiatįu pwerau deddfwriaethol llawn, fel sydd gan Senedd Yr Alban, cyn belled ā bod traean o'r ACau yn pleidleisio o blaid cynnal un a bod mwyafrif syml o blaid yn Nhŷ'r Cyffredin ac yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Mewn gwirionedd mae hynny'n golygu bod gan Lafur feto ar gynnal refferendwm.
Fe fydd angen caniatād o Lundain
|
Er enghraifft, petai llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn elyniaethus tuag at Gynulliad o dan lywodraeth Lafur, yna gellid dilyn y trywydd yma tuag at bwerau deddfu llawn ym Mae Caerdydd.
Bydd rhagor o newidiadau y tu ōl i'r llenni yn effeithio'n fawr ar y ffordd y mae'r Cynulliad yn gweithredu a'r ffordd rydyn ni'n ei drafod.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gwahanu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ffurfiol oddi wrth y Cynulliad fel corff - meddyliwch yn nhermau Llywodraeth a Senedd.
A beth am y Prif Weinidog?
Mae Rhodri Morgan wedi cyfeirio ato'i hun ers tro fel Prif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru, er mai Prif Ysgrifennydd Pwyllgor Gweithredol y Cynulliad Cenedlaethol yw ei deitl yn ōl y gyfraith.
Bydd y Ddeddf yn cadarnhau'r teitl mae e'n ei ffafrio.
'Cwestiwn Gorllewin Clwyd'
Ac un peth arall i'w ystyried: yr ateb a gafwyd i 'Gwestiwn Gorllewin Clwyd'.
Beth yw ystyr hynny? Wel yn etholiad diwethaf y Cynulliad, llwyddodd tri o'r pedwar ymgeisydd aflwyddiannus yng Ngorllewin Clwyd i gyrraedd y Cynulliad, drwy system cynrychiolaeth gyfrannol y rhestr ranbarthol.
Honnodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol bod hynny'n annheg ac yn ddryslyd.
Dywedodd Mr Hain ei fod yn creu "enillwyr o gollwyr".
Felly mae'r Ddeddf yn gorfodi darpar ACau i ddewis un trywydd neu'r llall y tro hwn.
Dywed y gwrthbleidiau bod hyn yn rigio'r system, oherwydd fel mae'r pethau ar hyn o bryd, ni fydd yn niweidio Llafur gymaint ā'r pleidiau eraill.
Roedd corff Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol sy'n goruchwylio etholiadau, y Comisiwn Etholiadol, hefyd yn feirniadol o'r newid.