Bydd y trydydd Cynulliad yn wahanol iawn i rai y gorffennol
|
Ar sawl ystyr, ni fydd llawer o debygrwydd rhwng y Cynulliad Cenedlaethol wedi Mai 3 2007 â'r sefydliad ddaeth i fodolaeth wyth mlynedd yn ôl.
Bydd mwy na llond llaw o'r un hen wynebau, a bydd y Senedd, a agorwyd gyda'r fath rwysg yn 2006, yn dal i gynnig llwyfan gwleidyddol i Gymru.
Ond dylai pwerau ychwanegol y trydydd Cynulliad - gyda'i allu i greu deddfau newydd, wedi'u cynllunio a'u ffurfio i ateb anghenion Cymru - fod yn newid mor ddramatig i'r wladwriaeth wleidyddol yng Nghymru ag yr oedd creu datganoli ei hun yn 1999.
Cyn 1999, roedd datganoli ad-hoc pwerau o Whitehall i'r Swyddfa Gymreig wedi creu set gymhleth ac, mewn sawl achos, afresymegol o bwerau, a weithredwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'i weinidogion.
Dechrau newydd
Gweithred sylfaenol cyntaf datganoli oedd trosglwyddo'r casgliad hwn o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun - "corff corfforaethol" gyfansoddiadol ryfedd, a oedd yn gorfod dysgu yn ei blentyndod cynnar sut i ymdrin ag ymylon geirwon ei bwerau cyfyngedig.
Ond pam gadael i'r ffeithiau rwystro'r stori? Oherwydd waeth beth am y problemau cychwynnol a phoenau tyfiant datganoli, dyma'r foment pan gafodd Cymru am y tro cyntaf ei llywodraeth etholedig ei hun, a dechreuadau ei gwasanaeth sifil ei hun.
Yn wleidyddol, roedd disgwyl i hyn arwain at ddechrau newydd - roedd gwleidyddiaeth "gonsensws" i fod i chwalu'r ffiniau a geir yn sgil arddull mwy ymosodol San Steffan.
Ni pharodd y ddelfryd hon yn hir, ac yn ystod cyfnod Cynulliadau 1999 a 2003, atgyfodwyd confensiynau mwy traddodiadol gwleidydda.
Yr unig gyfnod a welodd harmoni positif rhwng y pleidiau oedd cyfnod Llywodraeth Bartneriaeth Llafur-Democratiaid Rhyddfrydol 2001-2003; math mwy negyddol o harmoni sydd wedi bodoli oddi ar hynny, wrth i'r gwrthbleidiau ochri'n gyson yn erbyn llywodraeth Llafur.
Cam arwyddocaol
Yn ystod yr esblygiad hwn, daeth Ysgrifenyddion y Cabinet yn Weinidogion y Cabinet, yn gyfrifol am yr hyn a elwir yn Llywodraeth Cynulliad Cymru - yn hytrach na'r Cynulliad ei hunan.
Ffurfiolwyd y gwahaniad rhwng dyletswyddau'r weinyddiaeth a'r dyletswyddau seneddol, ac yn araf deg dechreuodd gwleidyddiaeth Cymru aeddfedu.
Gallai'r Cynulliad newydd ofyn am fwy o rym a chreu deddfau
|
Bydd diwedd swyddogol statws corff corfforaethol, a thrawsnewid Aelodau Cynulliad mewn Llywodraeth yn Weinidogion y Goron yn gam arwyddocaol arall ar ôl Mai 3.
Ar yr wyneb, ni fydd y darlun i'w weld yn wahanol iawn ar y cychwyn.
Bydd 60 o Aelodau Cynulliad yn cael eu hethol, ac yn eu tro byddan nhw'n enwebu Prif Weinidog newydd - er mai'r Frenhines fydd yn rhoi'r teitl iddo yn swyddogol.
Yn eu tro bydd aelodau'r Cabinet a deiliad swydd newydd y Cwnsler Cyffredinol (ymgynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cynulliad Cymru) yn dilyn - ond gall hyn fod yn broses arafach na'r disgwyl, yn achos tebygol cymhlethdodau o gael llywodraeth glymblaid.
Cyfrifoldebau
Bydd y parablu ar bwyllgorau a sesiynau holi yn parhau - ond bydd yna gyfrifoldebau mwy miniog o ran craffu ar benderfyniadau, polisïau ac ymrwymiadau gwario Gweinidogion.
Bydd hyn yn arbennig o bwysig, gan fod gan Lywodraeth y Cynulliad gyllideb o £14 biliwn yn 2007 - ddwywaith cymaint ag yn 1999 - a gyda phwysau ariannol llawer tynnach ar wario cyhoeddus o du Trysorlys y DU.
Pan fydd y Llywodraeth yn cael ei ffurfio o'r diwedd, bydd ganddi gyfrifoldeb dros yr un pwerau a meysydd polisi ag yn y gorffennol - gan gynnwys iechyd, addysg, datblygu economaidd, ariannu llywodraeth leol, materion gwledig a'r iaith Gymraeg.
Ond dros gyfnod o amser, bydd y Ddeddf Llywodraeth Cymru newydd yn caniatáu datganoli rhagor o bwerau, ar ôl i ddau Dŷ San Steffan roi caniatâd i geisiadau penodol.
Yn ystod wyth mlynedd gyntaf datganoli, roedd y Cynulliad yn gallu addasu deddfwriaeth o San Steffan a oedd yn effeithio ar y meysydd hynny a oedd wedi'u datganoli eisoes (deddfwriaeth eilradd â defnyddio'r jargon) ond ni allai basio deddfau yn ei hawl ei hun (deddfwriaeth gynradd).
Deddfau Cymreig
Ar ôl mis Mai, fodd bynnag, bydd y Cynulliad yn gallu gofyn am ddognau ychwanegol o rym, er mwyn creu ei deddfau Cymreig ei hun.
Mewn geiriau eraill, bydd y Cynulliad yn gallu gofyn i San Steffan am yr hawl i lunio'r ddeddfwriaeth drosto'i hun, ac yna bwrw ymlaen gyda'r gwaith.
Mae datganoli yng Nghymru yn datblygu
|
Y drefn a ddylai weithredu o dan y system newydd yw bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gofyn i Ysgrifennydd Cymru am ganiatâd i ddeddfu mewn maes arbennig.
Os yw Ysgrifennydd Cymru yn cytuno, a dau Dŷ San Steffan hefyd yn cytuno, yna bydd y cyfrifoldeb dros y gwaith deddfwriaethol a chraffu ar y cynigion yn cael ei drosglwyddo o Lundain i Fae Caerdydd.
Er eu bod yn gyfyngedig, y "Mesurau'r Cynulliad" hyn yw'r cam amlwg nesaf ar daith datganoli Cymru, a heb os bydd eu ffiniau ar brawf, wrth i rai o Aelodau'r Cynulliad geisio symud yn nes at gyrraedd pwerau deddfwriaethol llawn, yn annibynnol ar ennill sêl bendith San Steffan.
Mae'r gobaith o ennill pwerau llawn, ar lun Yr Alban, eisoes wedi'u corffori yn Neddf Llywodraeth Cymru, ac erbyn pedwerydd etholiad y Cynulliad yn 2011, gellir gwireddu hynny - yn amodol drwy refferendwm arall.
Ond ar y cwestiwn penodol hwn, pwy sydd i ddweud pa refferendwm fyddai'n adleisio barn pobl Cymru - yr ymwrthod yn 1979 neu optimistiaeth ofalus 1997?