Mae'r cyngor yn parhau i ymgynghori
|
Fe ddaeth cyfarfod cyhoeddus ym Motwnnog ym Mhen Llŷn i ben yn ddisymwth nos Fercher, wrth i Gyngor Gwynedd ofyn am farn y cyhoedd am gynlluniau i ad-drefnu addysg gynradd yn y sir.
Cafwyd cyflwyniad gan swyddogion y Cyngor a gofynnwyd am farn y cyhoedd. Ar ôl i'r Cynghorydd Seimon Glyn godi ar ei draed i ddweud nad yw pobl Llŷn eisiau newid yn addysg gynradd y sir fe aeth pawb adref ar unwaith.
Roedd tua 200 o rieni yn y cyfarfod dwy awr, a oedd yn rhan o'r broses ymgynghori gan yr awdurdod addysg.
 |
Dyw'r car ddim wedi torri i lawr, felly does dim angen newid y car
|
Dywedodd y Cynghorydd Richard Parry Hughes, arweinydd Cyngor Gwynedd, ar ôl y cyfarfod: "Ry' ni'n gwrando ar lais y rhieni, ond heblaw ein bod yn cael llwythi ar lwythi o blant ychwanegol yn ein hysgolion - ac nid yw hynny'n mynd i ddigwydd - mae'n rhaid newid".
Fe gafodd y gynulleidfa wybod nad yw'n bosib barhau â'r drefn bresennol am fod nifer y disgyblion yn dal i ostwng.
Mae'r cyngor yn dweud fod niferoedd plant wedi gostwng yn sylweddol ers 1996.