O bosib dyma Gyllideb olaf Gordon Brown
|
Mae'r Canghellor Gordon Brown wedi cyflwyno ei unfed gyllideb ar ddeg yn Nhŷ'r Cyffredin.
Ynddi fe gyhoeddodd y byddai'n torri treth incwm o 22c yn y bunt i 20c ac y byddai hynny'n dod i rym yn Ebrill 2008.
Roedd y cyhoeddiad hwnnw yn gwbl annisgwyl ar ddiwedd ei araith.
Fe gyhoeddodd y byddai gan lywodraeth newydd y cynulliad bron biliwn o bunnau yn ychwanegol i wario ar ôl yr etholiad ym Mai.
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain: "Mae hyn yn newyddion gwych i bobl Cymru. Mae'r llywodraethau yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd yn cyd-weithio i sicrhau Cymru lewyrchus.
"Mae hyn yn digwydd yn yr oes newydd o ddatganoli pan fydd mwy o bwerau yn cael eu trosglwyddo i Fae Caerdydd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru."
Yn y gyllideb hefyd, fe gyhoeddodd Gordon Brown y bydd e'n cynyddu'r gronfa a gafodd ei sefydlu i helpu pobl a gollodd eu pensiynau wrth i'w cwmnïau fynd i'r wal.
Fe gafodd gronfa ei sefydlu yn dilyn cwymp cwmni dur Allied Steel and Wire yn Nghaerdydd ac yn ôl Mr Brown fe fydd y gronfa yn cynyddu o 2 biliwn i 8 biliwn o bunnau.
Ymhlith y mesurau eraill a gafodd eu cyhoeddi gan y Canghellor ddydd Mercher roedd cynnydd ym mhris cwrw a seidr - ceiniog y peint yn ddrytach.
Bydd pris potel o win 5c yn ddrytach a phecyn o sigarets 11c yn ddrytach.
Treth
Yn ôl y disgwyl fe fydd treth ar y cerbydau sy'n llygru fwyaf yn codi £300 eleni ac yna £100 ar ben hynny y flwyddyn nesa.
Fe gyhoeddodd Mr Brown y bydd newidiadau hefyd i systemau treth er mwyn annog pobl i fod yn fwy gwyrdd.
Fe fydd tai newydd sy'n isel o ran y carbon y maen nhw'n ei ryddhau ddim yn gorfod talu treth stamp yn y dyfodol.
Bydd 'na gymorth ariannol hefyd i bensiynwyr gael system insiwleiddio yn eu tai.
Dywedodd y Canghellor y bydd y lefel isaf ar gyfer talu treth etifeddiaeth yn codi i £350,000 a hynny'n golygu y bydd mwyafrif helaeth o deuluoedd ddim yn gorfod talu treth etifeddiaeth yn y dyfodol.
Teuluoedd
Yn ôl Gordon Brown, roedd anghenion teuluoedd yn ganolog i'r gyllideb.
Ond eisioes mae arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, wedi beirniadu'r Canghellor yn hallt ar lawr Tŷ'r Cyffredin.
Fe ddywedodd bod y Canghellor wedi gostwng un dreth ond wedi codi 99 ohonyn nhw.
Daeth ymateb hefyd gan arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd: "Mae'r Canghellor yn torri trethi ymhobman, ond yn boddi mewn mor o ddyled, er mwyn neud yn siwr ei fod e'n fwy poblogaidd cyn symud i rif 10."
Dywedodd Jenny Randerson AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae cyllideb Gordon Brown yn un ddeniadol mewn ffordd arwynebol iawn.
Nid yw'n gyllideb sy'n creu Cymru tecach na'n wyrddach."