BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Mawrth 2007, 16:41 GMT
Estyn: 'Dylai ysgolion newid'
School assembly
Mae Estyn yn galw am newidiadau er mwyn bodloni "gofynion cyflogwyr am fedrau Cymraeg a dwyieithog da."

Mae angen trawsnewid ysgolion yng Nghymru i gwrdd ag anghenion y dyfodol, medd Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Ymhlith y newidiadau sy'n cael eu hargymell mae strwythurau staffio, adeiladau ysgol, yr amserlen ysgol, y cwricwlwm medrau, defnyddio technoleg ac arferion dysgu ac addysgu.

Yn y ddogfen drafod 36 tudalen, Trawsnewid Ysgolion, mae Estyn yn dweud y bydd angen egni ac ymroddiad i weithredu'r newidiadau.

Mae'r adroddiad yn amlinellu sut y mae angen i ysgolion yng Nghymru newid i gyfarfod ag anghenion dysgwyr y ganrif hon.

"Bydd angen i ysgolion gydweithio fwyfwy ag ysgolion eraill, colegau, darparwyr gwasanaeth, sefydliadau hyfforddi a gweithleoedd i sicrhau bod dewisiadau ehangach ac ansawdd uchel ar gael mewn cymunedau i gymell ein pobl ifanc i ddysgu a llwyddo," meddai Susan Lewis, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Mae'r ddogfen yn amlinellu'r sefyllfa gyfredol, pam mae angen i ysgolion newid a llawer o'r prif heriau a'r cyfleoedd sy'n eu hwynebu.

Ynddi mae Estyn yn ystyried gwahanol agweddau ar ddarpariaeth ysgol a sut y mae modd darparu addysg ar gyfer anghenion pob unigolyn.

Dosbarth (cyffredinol)
Bydd angen i ysgolion gydweithio fwyfwy yn y dyfodol

Dywed y corff arolygu fod angen i arweinyddiaeth a rheolaeth ysgolion y dyfodol ddefnyddio amser, adnoddau ac adeiladau yn fwy uchelgeisiol a chreadigol, a defnyddio medrau ac adnoddau eu staff a'u partneriaid cymunedol i fod yn fwy ymatebol i anghenion y dysgwr a'r gymuned.

'Cyfyngu dewis'

Mae'r adroddiad yn beirniadu'r ffaith bod "rhai awdurdodau lleol yn parhau i ddibynnu ar awdurdodau cyfagos i ddarparu addysg uwchradd Gymraeg ar gyfer eu disgyblion.

"O ganlyniad," meddai "mae rhai awdurdodau lleol yn cyfyngu dewis rhieni a chyfleoedd disgyblion i fynychu darpariaeth Gymraeg yn lleol."

Dywed yr adroddiad bod "nifer y disgyblion sy'n parhau i ddefnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng ar gyfer eu haddysg a'u hyfforddiant ar lefelau uwchradd a thrydyddol yn isel.

"Mae diffyg parhad ieithyddol mewn darpariaeth l-16 ar gyfer disgyblion a fu'n astudio Cymraeg, neu drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Yn aml, nid yw'r disgyblion hyn yn cael y cyfle i ddefnyddio'r iaith mewn cyrsiau addysg bellach ac addysg uwch. Nid oes digon o gymwysterau galwedigaethol ar gael yn Gymraeg."

Iard chwarea (cyffredinol)
Bydd angen egni ac ymroddiad i wneud y newidiadau angenrheidiol, medd Estyn

Mae Estyn yn galw am newidiadau er mwyn bodloni "gofynion cyflogwyr am fedrau Cymraeg a dwyieithog da ac i sicrhau bod Cymru yn dod yn genedl fwy dwyieithog."

Ledled Cymru, medd y corff arolygu, mae ysgolion mewn cyfnodau gwahanol o wneud y newidiadau sydd eu hangen i "ddod 'n hysgolion i mewn i'r ganrif hon".

Eu gobaith yw y bydd y ddogfen sy'n cael ei chyhoeddi heddiw yn arwain at drafodaeth er lles pob dysgwr yng Nghymru.




HEFYD
Poeni am ganlyniadau addysg
24 Ion 07 |  Newyddion
Safon disgyblion yn gwella
02 Ion 07 |  Newyddion
Newid dulliau dysgu plant iau
04 Rhag 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^