Roedd ffermwyr lleol yn cyflenwi llaeth i'r ddwy ffatri oedd yn cynhyrchu caws
|
Mae cyfarfod agored nos Fawrth wedi trafod dyfodol y diwydiant llaeth yng Ngheredigion ar ôl cau ffatri gaws Dyffryn Aeron a ffatri brosesu caws Dairygold.
Yn Theatr Felinfach yr oedd y cyfarfod ddechreuodd am 8pm.
Collodd 115 eu swyddi pan gaeodd ffatri Dairygold yn Felinfach yn Ebrill 2006.
A diwedd y mis bydd ffatri gaws Dyffryn Aeron yn cau a 44 o weithwyr yn colli eu gwaith.
Arbenigedd
"Yn lle derbyn y drefen mae angen i ni ei chwestiynu," meddai un o'r trefnwyr Euros Lewis.
"Beth yw'r asedau a'r adnoddau sydd ar gael i ni? Os nag y'n ni'n cwestiynu, bydd dim byd yn cael 'i wneud."
Dywedodd fod colli'r holl swyddi'n golygu colli arbenigedd mwy na hanner canrif.
"Swyddi prin yw'r rhain, o ansawdd uchel a chyflogaeth deg ac yn rhan o'r stwythur economaidd. Mae mwy o laeth yn cael ei gynhyrchu yn yr ardal erbyn hyn ..."
"Mae'n bwysig i orllewin Cymru bod cyfleusterau i brosesu llaeth," meddai Brian Walters o Undeb Amaethwyr Cymru.
"Ac mae hyn yn gyfle i ffermwyr gydweithio ac i'r cynulliad - sy'n sôn yn aml am roi 'gwerth ychwanegol' ar gynnyrch - roi arian i gefnogi eu geiriau".
Dywedodd Dai Davies o undeb yr NFU: "Mae angen ailedrychar y ffordd y mae'r cynulliad yn gwario arian yn Nyffryn Aeron.
"Maen nhw'n gwario llawer ar gwmnïau rhyngwladol, ond mae angen iddyn nhw gefnogi cwmnïau lleol yn fwy".
Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr y cylchgrawn Golwg, gadeiriodd y cyfarfod.
Siaradwyr
Ymhlith y siaradwyr yr oedd cynrychiolwyr ffatri gaws Dyffryn Aeron, y ddau undeb amaethyddol yng Nghymru, Cyngor Sir Ceredigion, AC Ceredigion Elin Jones ac ymgynghorwyr llaeth annibynnol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Cafodd y cyfarfod ei alw gan arweinwyr cymunedol yn yr ardal felly nid oedd gan y cynulliad rôl ffurfiol yn y trafodaethau. Ry'n ni'n deall nad oedd casgliadau pendant heblaw am benderfyniad i ofyn i Lywodraeth y Cynulliad i brynu yr eiddo.
"Mae'r Gweinidog Cefn Gwlad, Carwyn Jones AC, wedi cyfarfod ddydd Mercher ag uwch reolwyr Lactalis McLelland, perchenogion Aeron Valley Cheese, i drafod y rhesymau am y cau ac i weld a oes modd i Lywodraeth y Cynulliad gymryd camau pellach i leddfu'r effaith ar y gweithwyr. Roedd y cyfarfod yn adeiladol."
Clywodd staff ffatri gaws Aeron Valley ddiwedd Chwefror eu bod yn colli eu gwaith.
Mae'r cwmni sy'n berchen y safle yn nesáu at ddiwedd 30 diwrnod o ymgynghori.
Dywedodd y perchnogion Lactalis McLelland mai'r rheswm oedd colledion cynyddol ond y gallai rhai o'r staff gael cynnig gwaith yn yr Alban.