Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru sy'n bwrw golwg ar faterion y dydd. Mae croeso i chi anfon eich sylwadau aton ni isod.
Dydd Mawrth, Mawrth 20
Bu farw fy nghyfaill, David Knight, a gafodd ei ladd mewn damwain car ger Pont Abraham.
Roedd yn 52 oed ac yn athro yn Rhydaman.
Doedd 'na ddim byd arbennig am David. Pedair blynedd ar Gyngor Cymuned Cefn Cribwr oedd cyfanswm ei yrfa wleidyddol ac roedd ei fywyd yn un digon cyffredin.
Eto i gyd pobl fel David yw'r glud sy'n dal ein cymdeithas ynghyd.
Doeddwn i ddim wedi gweld David ers peth amser ond am ryw reswm neu'i gilydd cefais alwad ffôn gan blismon yn gofyn a oeddwn yn gwybod am rif i gysylltu â'i frawd.
A doeddwn i fawr o gymorth iddo ond cynigiais gyfeiriad mam David.
Roedd ei ymateb yn adrodd cyfrolau am agwedd ymroddedig ein gweision cyhoeddus.
Caredig a sensitif
Cefais wybod bod yr heddlu eisoes yn gwybod cyfeiriad y teulu ond gan fod mam David yn oedrannus roedden nhw am dorri'r newydd i aelod arall o'r teulu yn gyntaf.
Hynny yw, er gwaetha'r holl bwysau arnyn nhw, roedd plismyn Dyfed-Powys nid yn unig am wneud eu gwaith ond yn benderfynol o wneud hynny yn y modd mwyaf caredig a sensitif.
Hyd yn oed os oedd hynny'n golygu llwyth o waith ychwanegol.
Dyn fel yna oedd David, dyn a fyddai'n ceisio gwneud yr hyn oedd yn iawn yn lle'r hyn oedd yn hawdd.
Cafodd ei fagu mewn tŷ cyngor yng Nghefn Cribwr ger Pen-y-bont a'i genhedlaeth ef oedd y gyntaf o'i deulu i aros ymlaen yn yr ysgol.
Er mai hanes oedd diddordeb mawr David fe fyddai aros ymlaen i astudio'r celfyddydau yn ormod o naid i'r teulu.
Labordy
Rhaid oedd astudio rhywbeth defnyddiol, rhywbeth a fyddai'n sicrhau swydd.
Felly astudio gwyddoniaeth wnaeth David a chael swydd fel technegydd labordy mewn ysgol gyfun ym Mhen-y-bont.
Yn y swydd honno sylweddolodd fod ganddo fwy o ddawn dysgu na llawer o'r athrawon yr oedd yn eu helpu.
Ac yntau yn ei dridegau penderfynodd hyfforddi i fod yn athro i ddysgu nid gwyddoniaeth ond cymdeithaseg a hanes.
Cafodd swydd fel athro hanes yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman.
Roedd hynny yn ddigon iddo. Doedd gan y dyn addfwyn hwn fawr o uchelgais.
Roedd rhannu ei frwdfrydedd â phlant dwyrain Sir Gâr yn ddigon a bod yn rhan o we ei gymuned yn ddigon i'w foddhau.
A dyna, ar y cyfan, yw'n gweision cyhoeddus.
Conglfaen
Yn athrawon, yn blismyn neu'n ddoctoriaid; pobol sy'n ceisio gwneud eu gorau dros eraill, yn grwgnach weithiau, yn rhwystredig yn aml, ond trwy eu gwaith yn iro ein cymdeithas.
Y bobl hyn yw conglfaen ein gwareiddiad.
Mae'n hawdd i ni ym Mae Caerdydd anghofio hyn weithiau gyda'r holl gemau gwleidyddol, y strategaethau di-ri, y pwyllgorau, yr is-bwyllgorau a'r adolygiadau.
Hanfod y gwasanaethau cyhoeddus yw eu gweithwyr nid eu gwleidyddiaeth; pobl yn gweithio dros eu pobl.
Ac roedd David Knight ymhlith y goreuon.
Os oes gennych chi sylw gallwch ein e-bostio isod.
Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.