BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 19 Mawrth 2007, 16:29 GMT
Hanes glaniad Patagonia ar y we
Michael D.Jones
Michael D Jones: 'Tad y Wladfa'
Mae gwefan am hanes y Cymry a ymfudodd i Batagonia yn ail hanner y 19eg ganrif wedi cael ei lansio.

Mae Glaniad yn wefan deirieithog - yn Gymraeg, Sbaeneg a Saesneg - yn cynnwys oriel o fwy na 2,000 o ddelweddau digidol ac erthyglau sy'n eu dehongli.

Roedd llywodraethwr talaith Chubut ym Mhatagonia, Mario Das Neves, a Phrif Weinidog Cymru Rhodri Morgan yn y lansiad yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Dechreuodd y prosiect yn gynnar yn 2005, a'r gobaith yw y bydd y wefan yn cael ei defnyddio fel adnodd addysgol.

Partneriaid y prosiect yw CyMAL, is-adran newydd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, Culturenet Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifdy a Llyfrgell Prifysgol Bangor, a nifer o sefydliadau ym Mhatagonia.

Cafodd y prosiect ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chael ei weinyddu gan CyMAL, a'r partneriaid eraill yn darparu cynnwys a gwasanaethau golygyddol a thechnegol.

Hwyliodd yr ymfudwyr cyntaf i Batagonia, tua 150 ohonyn nhw, o Lerpwl ym Mai 1865 ar fwrdd llong y Mimosa.

Dechreuodd Michael D Jones boeni fod mewnfudwyr o Gymru yn America ... yn colli eu hunaniaeth genedlaethol
Dr Dafydd Tudur, swyddog prosiect Culturenet Cymru

Ddeufis yn ddiweddarach, ar ôl teithio 8,000 o filltiroedd, cyrhaeddon nhw'r Bae Newydd (neu Porth Madryn/Puerto Madryn).

'Hunaniaeth'

Dywedodd Dr Dafydd Tudur, swyddog prosiect Culturenet Cymru, mai'r wefan hon oedd yr unig le lle oedd cymaint o eitemau a lluniau delweddau digidol o Batagonia a Chymru.

"Yn y 19eg ganrif dechreuodd Michael D Jones boeni bod mewnfudwyr o Gymru yn America yn cael eu hamsugno i mewn i'r gymdeithas Americanaidd ac yn colli eu hunaniaeth genedlaethol," meddai.

Gwladfa Gymreig ym Mhatagonia oedd ei ateb, ac ar Orffennaf 28, 1865 glaniodd yr ymfudwyr cyntaf o Gymru ar dir Patagonia.

Dros y 45 mlynedd nesaf daeth cannoedd o'u cyd-Gymry.

Dywedodd Dr Tudur mai ei hoff eitem oedd llun gafodd ei dynnu o fewn dwy flynedd i'r ymfudwyr cyntaf gyrraedd Patagonia.

"Dwi'n hoff iawn o un o'r lluniau cynharaf, un o Lewis Jones ymysg y Tehuelche, sef y llwyth crwydrol a oedd yn byw yn y dalaith ar y pryd," meddai.




HEFYD
Ymgyrch i agor ysgol Patagonia
17 Ebr 06 |  Newyddion
Apelio am weinidogion Cymraeg
09 Rhag 05 |  Newyddion
Cludo llyfrau i Batagonia
15 Hyd 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^