Cau Ysgol Mynyddcerrig: Pwnc llosg yn etholaeth Llanelli
|
Mae addysg yn sicr yn un o'r pynciau fydd yn effeithio ar sut mae pobl yn pleidleisio yn yr etholiad ar Fai 3.
Mae nifer o awdurdodau lleol dros Gymru wedi bod yn edrych ar ad-drefnu ysgolion yn ddiweddar ac mae rhai wedi penderfynu cau ysgolion bach gan achosi llu o brotestiadau.
Mae cau ysgolion yn ennyn teimladau cryfion o fewn cymunedau ac mae'n bosib y bydd 'na effaith ar sut fydd pobl yn pleidleisio yn etholiad y Cynulliad.
Yn achos Ysgol Mynyddcerrig yng Nghwm Gwendraeth mae 'na sawl protest wedi bod dros y misoedd diwetha.
Mae Mynyddcerrig yn etholaeth Llanelli ac fe gafodd yr Aelod Cynulliad lleol ei hethol â mwyafrif o 21 o bleidleisiau'n unig.
Fe allai pleidleisiau rhieni a chyfeillion Ysgol Mynyddcerrig felly fod yn dyngedfennol i'r canlyniad.
Cerdded i ysgolion pell
Byddai sicrhau dyfodol yr ysgol hefyd yn sicrhau pleidleisiau yn ôl cadeirydd y llywodraethwyr Terence Jenkins.
"Fi yn siwr bydde pobl lleol yn bolon newid eu lliw ar gownt cadw'r ysgol ar agor," meddai.
Un sy'n cytuno ydi'r rhiant Jill Saracini.
"Yn bendant byddaf yn pleidleisio amdanyn nhw achos 'ma rhywun ishe cadw'r ysgolion bach ar agor.
Mae llai a llai o blant yn cael eu geni a gormod o lefydd gwag mewn ysgolion
|
"Mae'n bwysig cadw nhw ar agor, allwch chi byth a chael plant bach yn cerdded i ysgolion eraill dwy filltir o fan hyn ar hyd heolydd cul fel maen nhw."
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi chwarae rhan amlwg yn yr ymgyrch i gadw'r ysgol ar agor.
Yn ôl Ffred Ffransis bydd cau ysgolion bach yn bwnc llosg yn yr ardal am beth amser eto.
"Yn etholaeth Llanelli er enghraifft ni'n disgwyl penderfyniad am ddyfodol Ysgol Mynyddcerrig ac mae ysgolion cyfagos fel Bancffosfelen, ysgolion yn ardal Pontiets Ponthenri, Carwe, Mynydd y Garreg i gyd dan fygythiad.
"Mae'n ymosodiad ar ein holl ysgolion pentrefol Cymraeg a'n cymunedau pentrefol Cymraeg.
"Mae'n rhaid i ni gael gwleidyddion yn yr ardal yna sydd â gweledigaeth i weld potensial yr ysgolion yna i gyd weithio gyda'i gilydd ac i ddefnyddio llefydd gwag i gyflwyno pob math o wasanaethau ar gyfer ein pentrefi," ychwanegodd.
Ennill pleidleisiau
Ond mae cau ysgolion yn bwnc llosg trwy Gymru gyfan gyda Gwynedd a Môn ymhlith yr awdurdodau lleol diweddara i ddechrau ymgynghori ar ddyfodol ysgolion bach.
Nid problem i'r ardaloedd gwledig yn unig yw hi 'chwaith oherwydd yng Nghaerdydd hefyd mae na 8,000 o lefydd gwag mewn ysgolion.
Yn syml iawn does 'na ddim digon o blant yn cael eu geni.
Gallai pleidleisiau'r protestwyr fod yn dyngedfennol
|
Ond mae 'na nifer o ffactorau eraill yn gyfrifol am y sefyllfa yn ôl Bryan Stephens o adran addysg Cyngor Sir Caerfyrddin.
"Mae nifer y disgyblion yn ein hysgolion ni yn cwympo'n go sylweddol.
"Ffactor arall yw cost yr addysg, mae 'na gost o rywbeth fel tair gwaith y cyfartaledd mewn ysgol fach o gymharu ag ysgol fwy.
"Mae nifer y disgyblion o'r un oed yn y dosbarth yn ffactor, peth arall wedyn yw parodrwydd pobl i ymgeisio am swydd penaethiaid yn yr ysgolion yma."
Mae cadw ysgolion bach yn agored yn gostus i awdurdodau lleol ond mae nifer o gymunedau'n teimlo mai'r ysgol yw calon y gymuned ac mae achub ysgolion yn mynd i olygu ennill pleidleisiau ym mis Mai.