BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Mawrth 2007, 16:32 GMT
Addysg Gymraeg: Protest myfyrwyr
Protest myfyrwyr
Dydi'r myfyrwyr ddim yn hapus am golli modiwlau

Yn ystod y prynhawn bu myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn protestio dros Addysg Gymraeg.

Nod y myfyrwyr oedd picedu cyfarfod Senedd y Brifysgol am nad oedden nhw wedi cyflawni'r gofynion a roddodd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth iddyn nhw mewn siarter flwyddyn yn ôl.

Dywedodd y siarter na ddylai "modiwlau gael eu dileu oherwydd bod nifer y Cymry yn rhy isel".

Mae'r myfywrwyr yn honni bod yr unig fodiwl Cymraeg yn Adran Rheolaeth a Busnes wedi cael ei ddiddymu ddechrau'r tymor er bod 'na fyfyrwyr wedi cofrestru amdano.

"Bydd myfyrwyr yn cymryd modiwl y mae'r Brifysgol yn ei ddisgrifio fel un cyfrwng Cymraeg, ond yn aml iawn maen nhw'n darganfod yn ddiweddarach mai dim ond ambell diwtorial sydd ar gael trwy gyfrwng yr iaith," meddai Steffan Roberts, myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf.

Dywedodd Menna Machraeth, Llywydd UMCA, bod "myfyrwyr wedi blino aros am amodau tecach i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg".

"Er bod y Llywodraeth a'r Prifysgolion yn dweud fod popeth ar fin gwella nid yw'r myfyrwyr yn gallu gweld arwydd o hyn."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^