BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 11 Mawrth 2007, 11:53 GMT
Hwb ariannol i fudiad iaith
Ymgyrchydd iaith
Cymdeithas: 'Arian ddim yn newid natur y mudiad'

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud y bydd yn ymgyrchu'n fwy effeithiol yn y dyfodol - diolch i rodd o fwy na £500,000 oddi wrth ddyn wnaeth ei arian yn Llundain.

Roedd Howel Vaughan Lewis o Geredigion wedi gadael yr arian i'r mudiad iaith yn ei ewyllys.

Bu aelodau yn eu cynhadledd flynyddol yn Aberystwyth ddydd Sadwrn yn penderfynu sut i wario'r arian.

Cafodd Hywel Griffiths ei ethol yn gadeirydd.

Bydd y rhodd yn golygu y gall y mudiad, sydd â 1,000 o aelodau, gyflogi hyd at bump o bobl.

Dywedodd Dafydd Morgan Lewis, swyddog y Gymdeithas, fod y rhodd yn hwb mawr.

"Ers dwi'n cofio mae'r mudiad wedi bod yn byw o'r llaw i'r genau.

"O'r diwedd mae gennym ni gyfle i fuddsoddi yn y dyfodol ac ymgyrchu yn fwy effeithiol ac yn fwy proffesiynol."

Prynu tai

Dywedodd y mudiad fod yn swm yn "fwy na £500,000".

Roedd Mr Lewis wedi gadael arian i'r Urdd, Merched y Wawr a Phlaid Cymru.

Yn wreiddiol o Alltyblaca, gwnaeth ei arian drwy brynu tai yn Llundain.

Mae gennym ni gyfle i fuddsoddi yn y dyfodol ac ymgyrchu yn fwy effeithiol ac yn fwy proffesiynol
Dafydd Morgan Lewis, swyddog

Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd y Gymdeithas yn wynebu problemau ariannol difrifol.

Dywedodd swyddog arall, Selwyn Jones, yn y cyfarfod na fyddai'r arian yn newid natur y mudiad.

"Mi fyddwn ni'n buddsoddi'r arian yma. Ond 'dan ni ddim yn mynd i newid natur y Gymdeithas.

"Bydd yn parhau yn fudiad chwyldroadol sy'n credu fod yn rhaid i bethau newydd."

Mae'r cadeirydd newydd yn 23 oed ac yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Cafodd ei eni yn Llangynog, ger Caerfyrddin, ac mae'n byw yn y dre gyda'i gariad, Catrin Dafydd.

'Yn fraint'

Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn.

"Mae'n fraint cael dilyn Steffan Cravos fel cadeirydd," meddai "a hynny mewn blwyddyn allweddol bwysig yn hanes Cymru a'r iaith Gymraeg.

"Gellir dadlau fod hon yn un o'r blynyddoedd pwysicaf yn ein hanes fel cenedl, gan y bydd Cynulliad Cenedlaethol yn ennill yr hawl i ddeddfu."




HEFYD
Cymdeithas: Miloedd mewn ewyllys
03 Chwef 07 |  Newyddion
Cyflwyno deiseb deddf iaith
07 Chwef 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^