BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Mawrth 2007, 17:03 GMT
Colli swyddi i Ddwyrain Ewrop?
Mae ansicrwydd am ddyfodol swyddi yn ffatri Jeyes yn Yr Wyddgrug wrth i'r cwmni ystyried symud peth o'r gwaith cynhyrchu i ddwyrain Ewrop.

Dywed y cwmni fod 70 o swyddi dan fygythiad.

Mae'r ffatri, sy'n cyflogi 250, yn cynhyrchu nwyddau glanhau.

Dywed Jeyes fod cystadleuaeth dramor, gan gynnwys cyflogau isel, yn ffactorau.

Mae'r cwmni yn ystyried symud peth o'u gwaith cynhyrchu i'w ffatri yn y Weriniaeth Tsiec.

"Fe fyddwn ni'n ymgynghori gyda'r staff cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol," meddai'r cwmni.

"Yn allweddol i'r penderfyniad fydd yr angen i gadw sgiliau angenrheidiol ar gyfer sicrhau dyfodol y safle yn Yr Wyddgrug.

"Byddwn ni'n rhoi help i unrhyw staff sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniad."





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^