Regan King a Deacon Manu yn helpu dehongli rhai o'r symbolau
|
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi cael help sêr rygbi Seland Newydd wrth geisio datrys dirgelwch Cadair Eisteddfod Genedlaethol 1935.
Ar y gadair mae delweddau o ryfelwyr Maori.
Roedd y gadair wedi ei chyflwyno i'r Eisteddfod gan Gymru alltud Seland Newydd.
Dywedodd Deacon Manu a Regan King, sy'n chwarae i Sgarlets Llanelli, mai pwrpas cerfiadau'r "rhyfelwyr" oedd gwarchod y gadair.
Cafodd y ddau eu gwahodd gan y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Teulu'r Parchedig E Gwyndaf Evans, enillydd y Gadair yng Nghaernarfon yn 1935, roddodd y gadair i'r llyfrgell.
Gwaith crefftwyr Maori oedd y Gadair.
Dywedodd Deacon Manu fod symbolaeth yn rhan bwysig o waith y Maori.
"Mae'n bosib fod y rhyfelwyr yn perthyn i lwyth y rhai gerfiodd y gadair" meddai.
Cipiodd Gwyndaf y gadair gyda'i awdl Magdalen.