Bu tri chant o weithwyr Remploy yng Nghymru yn protestio yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yn erbyn cynlluniau a all arwain at gau rhai o safleoedd y cwmni.
Mae Remploy ar hyn o bryd yn cynnal arolwg o'u holl ffatrïoedd, gan gynnwys 12 yng Nghyrmu.
E-drosedd: Uned newydd
Mae troseddau sy'n defnyddio'r we yn costio £160 miliwn y flwyddyn i fusnesau Cymru.
Felly mae uned newydd wedi cael ei chreu yn y cynulliad i geisio mynd i'r afael â throseddu o'r fath.
Cylchfan i osgoi pentre Clynnog
Cafodd cynghorwyr Gwynedd gynnig brys yn galw am ymchwiliad i'r posibilrwydd o greu cylchfan ar ffordd newydd yr A499.
Fe fyddai'r cylchfan ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli ger pentre Clynnog.
Fe fyddai'r ffordd newydd yn osgoi'r pentre.
Ond dywedodd y cynghorydd lleol Owain Williams ei fod yn poeni y bydd busnesau yn y pentre yn diodde os na fydd hi'n hwylus i bobl stopio yno.
Pryder dyfodol pwll nofio
Mae 'na bryder am ddyfodol pwll nofio Aberteifi o achos y gost o atgyweirio'r adeilad.
Mae'r pwll ar gau ar hyn o bryd er mwyn cael to newydd.
Ond er gwaetha grant o £15,000 gan Lywodraeth y Cynulliad, mae rheolwyr y ganolfan yn rhybuddio y bydd angen £200,000 i orffen y gwaith.
Dyma'r unig bwll nofio yn yr ardal.
Anrhydedd i'r cerddor Alun Hoddinot
Cafodd un o gyfansoddwyr amlyca Cymru anrhydedd go arbennig yn ystod cyngerdd Cerddorfa Genedlaethol y BBC i nodi Dydd Gwyl Dewi.
Roedd yr anrhydedd i Alun Hoddinot i nodi ei gyfraniad i gerddoriaeth glasurol.
Cyhoeddwyd bod ystafell recordio a neuadd berfformio newydd cerddorfa BBC Cymru yng Nghanolfan Mileniwm ym Mae Caerdydd, wedi'i henwi yn "Neuadd Hoddinot y BBC".
Fe fydd y neuadd yn agor yn swyddogol y flwyddyn nesaf.