Distyllfa: Miloedd o litrau o fodca
|
Mae fodca ffug a gynhyrchwyd mewn ffatri anghyfreithlon ac a allai arwain at ddallineb, wedi cael ei ddarganfod ar werth mewn tafarn yn ne Cymru.
Daeth swyddogion tollau o hyd i'r ffatri gyda miloedd o litrau o fodca mewn stordy yn Grangetown, Caerdydd, ddydd Iau.
Daethpwyd o hyd i fotel o'r fodca mewn tafarn ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae adroddiadau bod pedair botel mewn siop ym Mlaenau Gwent.
Mae profion cynnar ar y fodca yn dangod ei fod yn cynnwys llawer mwy o fethanol na'r hyn a ganiateir.
"Mae lefel niweidiol o fethanol yn y fodca a allai arwain at ddallineb," meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.
Dylai unrhyw un, meddai'r swyddogion, sy' wedi prynu Fodca Christoff ei daflu i ffwrdd.
Cafodd tri o Wlad Pwyl eu harestio cyn cael eu rhyddhau'n ddigyhuddiad.
Mae'r swyddogion wedi cau a chwalu'r ffatri.
'Ymgyrch fawr'
"Roedd hon yn ymgyrch fawr," meddai Kathryn Corcoran, o'r Adran Dollau Tramor a Chartref.
"Dy'n ni ddim wedi dod o hyd i gymaint o alchohol anghyfreithlon yng Nghaerdydd ers tipyn.
"Ry'n ni'n gofidio'n fawr oherwydd dy'n ni ddim yn siwr beth sy yn y fodca.
"Ac ry'n ni am gydweithio â'r cyngor er mwyn dweud wrth bawb y dylen nhw arllwys y fodca hwn i ffwrdd."
Roedd 5,000 o boteli wedi eu labelu yno a chafnau'n cynnwys miloedd o litrau.
Byddai hyn wedi golygu colledion o £500,000.
Roedd gwirod methyl yn y stordy ac alcohol diwydiannol.